Mae Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem wedi ennill tlws dartiau’r Meistri ar ôl curo Mervyn King o 11-8 yn y rownd derfynol ym Milton Keynes.

Dyma’r tro cyntaf i’r chwaraewr 46 oed ennill cystadleuaeth unigol ar y teledu.

Fe wnaeth ei gyd-chwaraewr dros Gymru yng Nghwpan y Byd a phencampwr y byd, Gerwyn Price, golli yn y rownd gyn-derfynol.

Roedd gan Clayton gyfartaledd tri dart o 104 yn yr ornest, ac mae ei fuddugoliaeth yn golygu ei fod e wedi ennill ei le yn yr Uwch Gynghrair.

Y ffeinal

Fe ddaliodd y ddau chwaraewr eu tir yng ngemau agoriadol yr ornest i’w gwneud hi’n 2-2.

Ond taflodd King 128 i fynd ar y blaen o 3-2 ac fe enillodd e’r gêm gyntaf wedi’r egwyl cyn taflu 177 a 110 wrth ymestyn ei fantais i 5-3.

Ond tarodd y Cymro’n ôl i unioni’r sgôr, 5-5, wrth daflu 136 mewn gêm 12 dart.

Daliodd Clayton ei dafliad gydag 84 i fynd ar y blaen unwaith eto, ac fe dorrodd e dafliad King i ymestyn ei fantais i ddwy gêm unwaith eto, 7-5.

Taflodd e 64 i ymestyn ei fantais ymhellach wrth i’r ornest fynd o ddrwg i waeth i’r Sais.

Mantais o bedair gêm oedd ganddo fe ar ôl 14 o gemau, 9-5, wrth daflu 70 i fynd o fewn dwy gêm i’r fuddugoliaeth.

Wnaeth King leihau’r fantais i 9-6 ac yna 9-7 gyda thafliadau o 80 i orffen y ddwy gêm.

Ond sgoriodd Clayton 180 wrth fagu momentwm, cyn sgorio 81 a gorffen y gêm mewn 11 dart i fynd ar y blaen o 10-7.

King gipiodd y gêm nesaf gyda sgôr o 70, ond gydag 16 yn weddill erbyn diwedd y gêm, fe darodd e’r targed i gael codi’r tlws.

Ymateb

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd nad oedd e wedi “amgyffred” ei lwyddiant.

“Galla i ei weld e ond dw i dal ddim yn gallu ei amgyffred e,” meddai.

“A bod yn onest, ro’n i’n meddwl ’mod i’n chwarae am y gorau o 25!

“Nid dyna’r ornest orau, roedd y ddau ohonon ni wedi chwarae’n well na hynny [yn gynharach] heddiw.

“Ond dw i’n meddwl, yn enwedig o’m rhan i, dyma fy ffeinal gyntaf… dw i ar y blaen yn erbyn boi gwych yn Mervyn ac roedd cael croesi’r llinell yn anhygoel.

“Ar y ffordd i fyny, ro’n i’n dweud ’mod i’n gobeithio na fyddai’n mynd yr holl ffordd ond clywch, dw i’n chuffed geezer!”

Taith y Cymro i’r rownd derfynol

Cyrhaeddodd Jonny Clayton y rownd gyn-derfynol gyda buddugoliaeth o 10-9 yn erbyn James Wade, a hynny ar ôl bod ar ei hôl hi o 9-6, ac fe enillodd e’r ornest honno gyda thafliad o 126 a llwyddo gyda 10 allan o 11 o ddyblau.

Pencampwr y llynedd Peter Wright o’r Alban oedd ei wrthwynebydd yn y rownd gyn-derfynol, ac fe aeth honno i’r gêm olaf un hefyd, gyda Clayton yn gorffen gyda chyfartaledd tri dart o 104 i ennill o 11-10.

Ond rhaid dweud bod ei fuddugoliaeth fwyaf wedi dod neithiwr wrth iddo guro’r Iseldirwr Michael van Gerwen, un o’r chwaraewyr gorau yn hanes y gamp.

Siom i Gerwyn Price yn y pen draw

Gyda Chymro arall, y pencampwr byd Gerwyn Price, hefyd yn rownd yr wyth olaf, roedd gornest rhwng dau Gymro yn y ffeinal yn bosibilrwydd cryf.

Fe wnaeth Price guro Adrian Lewis o 10-6 cyn colli o 11-10 yn erbyn Mervyn King.

Jonny Clayton

Buddugoliaeth fawr i Jonny Clayton yn y Meistri – a Gerwyn Price drwodd i’r wyth olaf

Y Cymro Cymraeg Clayton wedi curo Michael van Gerwen, tra bod Price wedi’i gyflwyno fel pencampwr y byd am y tro cyntaf

Dau Gymro yn ffeinal Meistri’r Dartiau?

Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton ymhlith y pedwar olaf ac fe allen nhw herio’i gilydd yn y rownd derfynol