Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn cynnal trafodaethau gyda Charlton Athletic ynghylch arwyddo chwaraewr canol cael Cymru, Jonny Williams.
Mae’r gŵr 27 oed ar gael am ffi ostyngol – llai na £200,000 – gan fod ei gytundeb yn dod i ben ddiwedd y tymor hwn.
Ymunodd Jonny Williams â Charlton yn 2019.
Mae cyn-chwaraewr Crystal Palace wedi gweithio gyda rheolwr newydd Caerdydd, Mick McCarthy, tra roedd ar fenthyg gyda Ipswich Town.
Mae Jonny Williams, sydd wedi cael ei gapio 25 gwaith gan Gymru, wedi chwarae 25 o weithiau’r tymor hwn, gan sgorio tair gôl.
Ef fyddai’r chwaraewr cyntaf i Mick McCarthy arwyddo fel rheolwr Caerdydd yn dilyn penodiad cyn rheolwr Gweriniaeth Iwerddon yn gynharach y mis hwn.
Ar hyn o bryd mae’r Adar Gleision yn 15fed yn y Bencampwriaeth ar ôl dechrau gwael i’r tymor dan y rheolwr blaenorol Neil Harris.
Cadarnhaodd rheolwr Charlton Lee Bowyer fod Jonny Williams ar ei ffordd i Gaerdydd, gan ddweud wrth Wasg De Llundain: “Ychydig ddyddiau’n ôl dechreuodd trafodaethau.
“Un o’r pethau y byddaf yn ei golli mewn gwirionedd yw’r wên honno bob bore, mae’n fachgen hyfryd. Mae wedi bod yn wych o gwmpas y lle ac mae pawb yn mynd i’w golli.
“Dim ond ychydig sydd ganddo ar ôl ar ei gytundeb a dyma’r peth iawn i’r clwb. Mae’n gytundeb da i’r clwb – ac roedd Jonny eisiau mynd yno.”