Mae rheolwr Burton, Jimmy Floyd Hasselbaink, wedi dweud fod gan Terry Taylor “botensial enfawr” ar ôl iddo ymuno â’r clwb o Wolves ar gytundeb dwy flynedd a hanner.

Daw hyn ar ôl i Burton gytuno ar becyn ariannol gyda Wolves i ryddhau chwaraewr sy’n chwarae i Gymru dan 21 o’i gytundeb presennol.

Cafodd Terry Taylor ei eni Irvine, yr Alban, a bu’n cynrychioli ei famwlad ar lefelau o dan 17 ac o dan 18 cyn ymuno â charfan o dan 21 Cymru.

Treuliodd y llanc 19 oed hanner cyntaf y tymor ar fenthyg yng Nghynghrair Sky Bet Two gyda Grimsby.

Dywedodd Hasselbaink wrth wefan swyddogol Burton: “Mae Terry yn chwaraewr ifanc yr ydym wedi bod yn edrych arno ers tro, mae’n chwaraewr canol cae amddiffynnol.

“Mae ganddo botensial enfawr – beth bynnag y mae am ei gyflawni, bydd yn gallu ei gyflawni.

“Nid yw wedi chwarae cymaint â hynny o gemau pêl-droed dynion eto ond rydym yn gyffrous iawn ei fod wedi ein dewis i ddod am ddwy flynedd a hanner, roedd llawer o ddiddordeb ynddo.”