Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd ei hymosodwr, Robert Glatzel, yn ymuno â Mainz, sy’n chwarae yn y Bundesliga, ar fenthyg am weddill y tymor.

Ymunodd Glatzel â Chaerdydd o Heidenheim ym mis Gorffennaf 2019 am ffi o £5.5m.

Mae’r gŵr 27 oed wedi gwneud 51 ymddangosiad Cynghrair i Gaerdydd ond dim ond wyth gêm y mae o wedi’i ddechrau i’r clwb y tymor hwn.

Mae Glatzel wedi sgorio tair gôl y tymor hwn, ar ôl rhwydo wyth gwaith yn ei ymgyrch gyntaf.

Ers i ymosodwr Cymru, Kieffer Moore – prif sgoriwr Caerdydd y tymor hwn gyda 10 gôl – sefydlu ei hun fel prif ymosodwr Caerdydd, mae cyfleoedd Glatzel yn y tîm wedi’u cyfyngu.