Mae’r ffenest drosglwyddo wedi cau’n glep ar glybiau pêl-droed yng nghynghreiriau Lloegr.

Er bod y diwrnod fel arfer yn un llawn bwrlwm wrth i glybiau frwydro am chwaraewyr, diwrnod olaf digon tawel gafodd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam ddoe (dydd Llun, Chwefror 1).

Dyma rai o’r uchafbwyntiau.

Caerdydd

Mae Jonny Williams, chwaraewr canol cae Cymru, wedi ymuno â Chaerdydd o Charlton am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Ond mae lle i gredu bod yr Adar Gleision wedi talu llai na £200,000 am y chwaraewr yr oedd ei gytundeb gyda Charlton yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Daw’r trosglwyddiad ar ôl dwy flynedd gyda’r clwb yn Llundain.

Nid dyma’r tro cyntaf iddo fe weithio o dan reolaeth Mick McCarthy – roedden nhw gyda’i gilydd yn Ipswich.

Yn y cyfamser, mae’r ymosodwr Robert Glatzel wedi symud i’r Almaen gan ymuno â thîm Mainz yn y Bundesliga ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Mae e wedi chwarae 51 o weithiau yn y gynghrair, ond dim ond wyth gêm mae e wedi’u dechrau yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, gan sgorio tair gôl.

Ond mae’n ymddangos nad yw’n rhan o gynlluniau’r rheolwr newydd – am y tro, o leiaf.

Abertawe

Fe fu cryn sôn yn ystod y ffenest drosglwyddo fod angen ymosodwr arall ar yr Elyrch ar ôl colli sawl chwaraewr oedd wedi bod ar fenthyg wrth iddyn nhw ddychwelyd i’w clybiau.

Ac maen nhw wedi cryfhau’r ymosod rywfaint, er mai chwaraewyr sy’n chwarae’n llydan yw’r rhai sydd wedi dod i mewn ar y cyfan.

Mae Morgan Whittaker, sy’n gallu chwarae yn y canol, wedi symud o Derby am ryw £700,000, tra bod yr Americanwr Paul Arriola ar fenthyg o DC United, clwb arall perchnogion Abertawe, a Kieron Freeman hefyd wedi symud o Swindon.

Yng nghanol y cae neu ar yr asgell yw hoff safleoedd Arriola, ac fe sgoriodd e wyth gôl mewn 35 o gemau dros yr Unol Daleithiau hyd yn hyn.

Cefnwr de neu asgellwr cefn yw Freeman, sydd wedi ymuno am swm sydd heb ei gadarnhau, ac fe gafodd ei ryddhau gan Sheffield United ar ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl iddyn nhw ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae e wedi ennill un cap dros Gymru ac roedd disgwyl y byddai’n aros gyda Swindon tan ddiwedd y tymor cyn i’r Elyrch ddangos diddordeb ynddo.

Wrth i Freeman ddod i Stadiwm Liberty, mae’r asgellwr Jordon Garrick wedi symud i’r cyfeiriad arall ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Casnewydd

Mae Casnewydd wedi denu’r ymosodwr 34 oed Nicky Maynard ar fenthyg o Mansfield tan ddiwedd y tymor.

Mae ganddo fe brofiad gyda sawl clwb mawr, gan gynnwys West Ham, Caerdydd a Bristol City.

Mae e wedi sgorio pedair gôl mewn 21 o gemau hyd yn hyn y tymor hwn.

Roedd e’n aelod o garfan Caerdydd oedd wedi codi i’r Uwch Gynghrair, lle chwaraeodd e wyth gêm – sgoriodd e dair gôl mewn 26 o gemau i gyd.

Yn y cyfamser, mae Tristan Abrahams wedi symud i Leyton Orient ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, ar ôl sgorio wyth gôl mewn 28 o gemau y tymor hwn, ac mae’n dychwelyd i’r clwb lle dechreuodd ei yrfa.

Wrecsam

Er bod y perchnogion Americanaidd newydd wedi buddsoddi arian yn y clwb, doedd dim rhaid i Wrecsam dalu ceiniog am y chwaraewyr ymunodd â’r clwb ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo.

Mae’r ymosodwr Dior Angus a’r amddiffynnwr Tyler French, ill dau, wedi ymuno’n rhad ac am ddim.

Mae Angus yn ymuno ar gytundeb 18 mis o Barrow, tra bo’r cefnwr ac amddiffynnwr canol French, gynt o Bradford, yn ymuno tan ddiwedd y tymor.

Mae Adi Yussuf wedi gadael y clwb ar ôl iddyn nhw benderfynu terfynu ei gyfnod ar fenthyg o Blackpool.

I’r cyfeiriad arall, mae Max Cleworth, sy’n 18 oed, a Jake Bickerstaff, 19, wedi ymuno â Chaernarfon ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Nathaniel Mendez-Laing

Yn y cyfamser, mae Nathaniel Mendez-Laing, a gafodd ei ddiswyddo gan Gaerdydd bum mis yn ôl, wedi ymuno â Middlesbrough.

Yno, bydd yn ymuno unwaith eto â’i gyn-reolwr Neil Warnock ac yntau wedi bod yn aelod o’r garfan enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2017-18.

Yn ystod y tymor hwnnw, sgoriodd e saith gôl mewn 42 o gemau, gyda’r Adar Gleision yn gorffen yn ail yn y Bencampwriaeth.

Yn ôl Neil Warnock, bydd e’n cynnig “dimensiwn ychwanegol” i’w dîm.