Mae James King, chwaraewr rheng ôl rhanbarth rygbi y Gweilch, wedi ymddeol yn sgil anaf i’w ysgwydd.

Yn enedigol o Awstralia, enillodd e 11 cap dros Gymru ar ôl dechrau chwarae i’r rhanbarth yn 2009, ac fe chwaraeodd e 203 yng nghrys y Gweilch.

Daeth ei gêm gyntaf i’r Gweilch yn erbyn Glasgow ar ôl ymuno o Aberafan, ac fe enillodd ei gap cyntaf dros ei wlad yn erbyn Japan yn 2013.

Dim ond pump o chwaraewyr eraill – Alun Wyn Jones, Duncan Jones, Paul James, Dan Biggar ac Andrew Bishop – sydd wedi chwarae mwy o weithiau i’r rhanbarth.

Sgoriodd e saith cais yn ystod ei yrfa.

Daeth yn gadeirydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru am gyfnod hefyd.

Anaf

Mewn datganiad, dywed James King ei fod yn dioddef poen yn ei ysgwydd yn dilyn yr anaf y llynedd, ac nad yw wedi llwyddo i wella’n llwyr.

Mae’n debyg bod y llawdriniaeth wedi methu.

Ond mae’n dweud ei fod yn “ddiolchgar” ei fod e wedi cael gyrfa ar y cae rygbi, gan deithio’r byd a magu profiadau “fydd gyda fi am weddill fy mywyd”.

Teyrnged y Gweilch
“Mae James wedi bod yn was arbennig i’r Gweilch,” meddai Andrew Millward, Rheolwr Gyfarwyddwr y rhanbarth.

“Daeth e drwy’r Academi nôl yn 2008 pan enillodd ei gytundeb cyntaf gyda ni, ac mae e wedi bod yn broffesiynol dros ben.

“Mae e bob amser wedi bod yn un o’r rhai sydd wedi gweithio galetaf yn y garfan ac mae e wedi bod yn gymeriad unigryw yn yr amgylchfyd.

“Mae e wedi bod trwy sawl llanw a thrai gyda ni ac wedi bod yn ganolog i’r hyn yw’r Gweilch.

“Roedd yn enghraifft berffaith o’r hyn yw bod yn ‘ddyn y Gweilch’ ac rydym yn dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol, a dw i’n sicr y gwelwn ni’r un llwyddiant yn ei fywyd ar ôl rygbi.”