Mae Athletau Cymru’n cydweithio â’r heddlu i fynd i’r afael ag ymddygiad bygythiol a sylwadau trahaus mae athletwyr benywaidd yn eu profi wrth ymarfer corff mewn mannau cyhoeddus.

Dywed James Williams, prif weithredwr Athletau Cymru, y dylai pawb fod yn gallu mwynhau “chwaraeon mewn modd diogel a chynhwysol”.

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae traciau rhedeg penodedig a champfeydd wedi’u cau felly does dim dewis gan athletwyr o bob lefel ond ymarfer corff mewn mannau cyhoeddus.

Ond ers dydd Gwener (Ionawr 29), mae hawl gan bobol i ymarfer corff gydag un person o aelwyd wahanol.

Eglurodd y prif weinidog Mark Drakeford fod y penderfyniad wedi’i wneud yn rhannol oherwydd bod menywod yn poeni nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel wrth ymarfer corff ar eu pennau eu hunain.

Yn ôl Athletau Cymru, mi fydd y newid yn “rhoi cymorth, cymhelliant ac elfen ychwanegol o ddiogelwch i bobol wrth redeg neu hyfforddi gyda’i gilydd”.

Cyn hyn, dim ond pobol o’r un aelwyd oedd yn gallu ymarfer corff gyda’i gilydd.

Wrth ymateb ar wefan Twitter, mae Heddlu’r De yn dweud bod “gan bob un ohonom yr hawl i ymarfer corff yn lleol heb brofi sylwadau difrïol nac ymddygiad bygythiol” ac nad yw’n “dderbyniol”.