Mae Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth Ffrainc wedi cadarnhau na fydd rhaid i dîm rygbi Cymru ynysu cyn herio Ffrainc yn Paris ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Roedd y Llywodraeth eisoes wedi rhoi sêl bendith i dîm Ffrainc deithio, ond roedd hi’n aneglur a fyddai’n rhaid i Gymru a’r Alban ynysu am saith diwrnod cyn wynebu’r Ffrancwyr.
Bu’n rhaid i drefnwyr y Chwe Gwlad lunio cynlluniau wrth gefn a chryfhau rheolau coronafeirws i geisio argyhoeddi Llywodraeth Ffrainc fod modd cynnal y gemau yn ddiogel.
Swigen Undeb Rygbi Cymru
“Mae Rygbi Ffrainc wedi darparu protocol iechyd llym i ni, ac mae’r penderfyniad wedi’i wneud gan y Llywodraeth y bydd y twrnamaint, gan greu swigod, yn mynd yn ei flaen gan ddechrau ar Chwefror 6,” meddai Roxana Mărăcineanu, Gweinidog Chwaraeon Ffrainc.
Roedd rheolau Covid-19 ar waith yn ystod gemau’r hydref y llynedd, ac mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, eisoes wedi dweud y bydd rheolau hyd yn oed yn llymach yn eu lle eleni.
Daeth carfan Cymru ynghyd yr wythnos ddiwethaf gan ffurfio swigen y tîm cenedlaethol ar gyfer y bencampwriaeth.
Ond mae’n bosib y bydd rhaid i chwech o chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru sydd yn chwarae yn Lloegr ddychwelyd i’w clybiau yn ystod y Bencampwriaeth y Chwe Gwlad pe na baen nhw yn cael eu dewis i chwarae dros Gymru.
Gohirio gemau?
Ar ôl enwi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad, rhybuddiodd Wayne Pivac fod y coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad i’r gystadleuaeth.
Fodd bynnag, pe bai rhaid gohirio neu ganslo gemau oherwydd achosion o’r coronafeirws ymhlith unrhyw garfan, yna mae trefnwyr y gystadleuaeth yn mynnu y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i gynnal y gemau ar ddyddiad arall.
Mae pythefnos o orffwys yn cynnig cyfle i wneud hyn ond yn ôl y trefnwyr, fydd gemau sy’n cael eu canslo ddim yn arwain at fuddugoliaeth o 28-0 fel digwyddodd yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd.
Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon y tu ôl i ddrysau caëedig yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.
Gemau Cymru yn y Bencampwriaeth eleni:
Cymru v Iwerddon | Stadiwm Principality | Chwefror 7, 15.00 |
Yr Alban v Cymru | Stadiwm Murrayfield | Chwefror 13, 16.45 |
Cymru v Lloegr | Stadiwm Principality | Chwefror 27, 16.45 |
Yr Eidal v Cymru | Stadio Olimpico | Mawrth 13, 14.15 |
Ffrainc v Cymru | Stade de France | Mawrth 20, 20.00 |