Mae rhanbarth rygbi’r Scarlets wedi arwyddo’r prop WillGriff John o Sale Sharks ar gyfer tymor 2021-22, a bydd yn ymuno â’r clwb yn yr haf.

Ymunodd â Sale Sharks bedwar tymor yn ôl yn 2017, gan chwarae i’r clwb 82 o weithiau, a chafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru y llynedd ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dechreuodd WillGriff John ei yrfa yn chwarae gyda chlwb Pontypridd, cyn dechrau ei yrfa broffesiynol gyda Gleision Caerdydd.

Mae ganddo brofiad yng nghynghrair Lloegr gyda Doncaster Knights, a Northland yn Seland Newydd.

“Mae WillGriff yn chwaraewr sydd wedi creu enw da iddo’i hun trwy chwarae yn yr Uwch Gynghrair gyda’r Sharks ac mae’n wych i’w gael yn ôl yng Nghymru,” meddai Glenn Delaney, prif hyfforddwr y Scarlets.

“Roedd e ar fin ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn yr Alban y llynedd cyn i’r gêm gael ei gohirio oherwydd Covid, ac mae’n awyddus i ailymuno â’r garfan ryngwladol.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei groesawu i Barc y Scarlets yn yr haf.”

‘Gobeithio cael chwarae rhan yn llwyddiant y clwb’

“Dw i wrth fy modd i fod yn ymuno a’r Scarlets tymor nesaf,” meddai WillGriff John.

“Maen nhw’n dîm sydd yn enwog am eu steil o chwarae sydd wedi’i seilio ar ddarn gosod cryf ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r rhanbarth yn yr haf.

“Mae gen i deulu ifanc felly fydd hi’n braf cael bod yn agosach i gartref ar ôl bod i ffwrdd o Gymru am sawl blwyddyn.

“Ar ôl siarad gyda Glenn, rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r garfan a gobeithio cael chwarae rhan yn llwyddiant y clwb.

“Mae cefnogwyr y Scarlets ledled y byd yn cael eu hadnabod fel rhai ffyddlon iawn ac mae gan y clwb hanes gwych.

“Dw i’n gobeithio, os bydd y pandemig yn ein caniatáu, y byddwn yn gallu rhedeg allan o flaen cefnogwyr ym Mharc y Scarlets erbyn y tymor nesaf.”