Cafodd Tyler French ei anfon o’r cae yn ei gêm gyntaf yng nghrys tîm pêl-droed Wrecsam neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 2), wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal 1-1 yn Eastleigh.

Aethon nhw ar y blaen yn erbyn llif y chwarae drwy Kwame Thomas yn niwedd yr hanner cyntaf, ond unionodd Joe Tomlinson y sgôr o’r smotyn i’r tîm cartref ar ôl 68 munud.

Aeth Wrecsam i lawr i ddeg dyn ar ôl 85 munud pan gafodd French ail gerdyn melyn am ei ran mewn ffrwgwd.

Ond llwyddon nhw i ddal eu tir am y munudau olaf a sicrhau pwynt.