Mae Clwb Pêl-droed Bournemouth wedi diswyddo eu rheolwr Jason Tindall, lai na deufis ers y gêm gyfartal ddi-sgôr ag Abertawe ar frig y Bencampwriaeth.

Ar Ragfyr 8 y cafodd y gêm honno ei chynnal, ac fe ddychwelodd Bournemouth i’r brig ar wahaniaeth goliau dros Norwich, gyda’r Elyrch bedwerydd.

Aethon nhw yn eu blaenau i ennill y ddwy gêm gynghrair nesaf cyn cael cyfnod digon cymysg o ran eu canlyniadau, ond maen nhw bellach wedi colli pedair gêm o’r bron ac wedi cwympo i’r chweched safle ac maen nhw bellach mewn perygl o lithro ymhellach o’r ras.

Datganiad

Mewn datganiad, dywed y clwb nad oedd yn “benderfyniad hawdd” o ystyried “ymroddiad rhagorol” Jason Tindall fel chwaraewr, is-reolwr a rheolwr.

“Fodd bynnag, mae’r perfformiadau a chanlyniadau diweddar wedi gostwng ymhell islaw disgwyliadau’r bwrdd,” meddai’r clwb wedyn.

“Rydym yn teimlo bod angen newid nawr er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i’r clwb gyflawni’r nodau a gafodd eu hamlinellu’n glir haf diwethaf.”

Maen nhw wedi diolch i Jason Tindal am 22 o flynyddoedd o wasanaeth.

“Mae e’n rhywun y mae gan y clwb feddwl mawr ohono fe, ar ôl iddo fe chwarae rhan bwysig wrth achub y clwb o’i ddyddiau mwyaf tywyll a mynd â fe ar y daith fwyaf erioed.”