Mae tîm criced ddinesig Caerdydd, Tân Cymreig, wedi cadarnhau pa chwaraewyr fydd yn aros gyda nhw ar gyfer y gystadleuaeth Can Pelen eleni.

Roedd y gystadleuaeth i fod i gael ei chynnal y tymor diwethaf, ond cafodd ei chanslo oherwydd y pandemig coronafeirws.

Ar draws yr wyth tîm sy’n cystadlu, mae 57 o chwaraewyr o’r drafft gwreiddiol wedi cael eu cadw ac mae 35 o lefydd newydd ar gael er mwyn cwblhau’r timau, gan gynnwys saith lle yn nhîm Tân Cymreig.

Yr enwau sydd wedi’u cadw gan dîm Tân Cymreig heddiw yw Qais Ahmad, Ryan Higgins, David Payne a Liam Plunkett o blith y dynion, ac Amy Gordon o blith y merched.

Roedd tîm y dynion eisoes wedi cadw Jonny Bairstow, Tom Banton a Ben Duckett yn y rownd flaenorol.

Bydd timau’r merched yn parhau i ddewis chwraewyr tan fis Mehefin, ond bydd gweddill y dewisiadau ar gyfer timau’r dynion yn cael eu cyhoeddi ar Chwefror 23.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu’n fyw gan y BBC a Sky Sports.