Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru’n herio Albania mewn gêm gyfeillgar cyn twrnament Ewro 2020.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 5, gyda’r gic gyntaf am 5yh.
Hon fydd gêm baratoi olaf Cymru cyn teithio i Baku ar gyfer gêm agoriadol Ewro 2020 yn erbyn y Swistir.
Roedd y tro diwethaf i Gymru wynebu Albania yn 2018, gyda Chris Gunter yn pasio Neville Southall fel y chwaraewr Cymreig i ennill mwyaf o gapiau dros ei wlad.
Ond colli o 1-0 oedd hanes dynion Ryan Giggs ar y noson honno.
Bydd Cymru’n dechrau ei hymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd 2022 yn erbyn Gwlad Belg ar Fawrth 24.
Bydd y garfan wedyn yn dychwelyd i Gaerdydd i wynebu Mecsico mewn gêm gyfeillgar cyn wynebu’r Weriniaeth Tsiec gartref yn nhrydedd gêm yr wythnos ar Fawrth 30.
Mae disgwyl i’r holl gemau gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.