Mae gweithiwr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi marw â’r coronafeirws.

Daw marwolaeth Helen Mills, gweithiwr iechyd 56 oed yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ar ôl profi’n bositif.

Dywed y bwrdd iechyd ei bod hi wedi rhoi “llawer o hapusrwydd ac achos i chwerthin” i’w chleifion.

Roedd hi wedi bod yn gweithio i’r bwrdd iechyd ers 2008.

Dywed y bwrdd iechyd iddi ddechrau ei gyrfa’n gweithio ym maes gofal yn y cartref, gan ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd yn 2005 fel gweithiwr iechyd yng Ngroeswen, cyn mynd i weithio yng Nghimla ac yna yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn gynorthwyydd ffisiotherapi.

Mae’r bwrdd iechyd wedi cydymdeimlo â’i theulu – ei gŵr Chris, eu merched Kaylie a Kate a’u hwyrion.