Mae swyddogion o Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn ymweld ag ail ysbyty yn Wuhan yn Tsieina wrth iddyn nhw ymchwilio i darddiad y coronafeirws.

Roedd ysbyty Jinyantan ymhlith yr ysbytai cyntaf i drin cleifion oedd wedi cael eu heintio ddechrau’r llynedd.

Cafodd cyfarfodydd eu cynnal ddoe (dydd Gwener, Ionawr 30) cyn i arbenigwyr ymweld â safle arall yn nhalaith Hubei.

Dywedodd y Sefydliad ddiwedd yr wythnos fod swyddogion am ymweld ag ysbytai, marchnadoedd sy’n gysylltiediad ag achosion a sawl labordy yn Wuhan.

“Mae pob damcaniaeth dan ystyriaeth,” meddai’r Sefydliad ar Twitter, sy’n dweud eu bod nhw wedi gofyn am ddata a’u bod nhw’n bwriadu siarad â nifer o gleifion.

Ond mae Llywodraeth Tsieina yn ceisio tawelu unrhyw sïon eu bod nhw’n gyfrifol am yr ymlediad cyntaf ac mae’n annhebygol y bydd yr ymweliad hwn yn gallu cael hyd i ateb y naill ffordd neu’r llall am darddiad y feirws.

Gallai gymryd rhai blynyddoedd o ymchwil cyn cael atebion pendant, ac mae Llywodraeth Tsieina wedi ceisio lledu sawl damcaniaeth.