Mae holl weithwyr a phreswylwyr cartrefi gofal pobl hŷn naill ai wedi derbyn neu wedi cael cynnig brechlyn cyntaf, yn ôl y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.

Yng nghynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Chwefror 1), dywedodd Eluned Morgan fod timau brechu yn parhau i frechu nifer fawr o bobol fregus dros y penwythnos, er gwaethaf “penwythnos arall o dywydd gwael”.

Ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud fod 74.5% o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn erbyn hyn, ynghyd â 75.1% o breswylwyr cartrefi gofal, a 79.1% o staff cartrefi gofal.

“Mae pob cartref gofal pobl hŷn naill ai wedi derbyn ymweliadau gan dimau brechu neu mae ymweliadau wedi’u trefnu,” meddai.

Dywedodd Eluned Morgan mai’r unig gartrefi sydd heb dderbyn y brechlyn ydy’r rheiny sydd wedi cael achos positif am Covid-19 o fewn yr 20 diwrnod diwethaf.

“Bydd timau brechu yn ymweld â’r cartrefi gofal hyn cyn gynted ag mae’r cyngor iechyd cyhoeddus yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny.

Diolchodd y Gweinidog i’r “tîm anhygoel o frechwyr” am eu gwaith.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio mor galed i ddarparu brechlynnau i bawb sydd eu hangen.

“Mae pob brechlyn a ddarperir yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws.”

Brechlyn ddim yn orfodol i weithwyr cartrefi gofal

Ychwanegodd Eluned Morgan nad yw hi’n orfodol i weithwyr cartrefi gofal gael eu brechu.

Daw hyn yn sgil adroddiadau ar draws Prydain fod rhai gweithwyr cartrefi gofal yn gwrthod cael eu brechu.

“Dyw hi ddim yn orfodol i bobol sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i gael y brechlyn ond wrth gwrs, byddwn annog pob gweithiwr i dderbyn y cynnig er mwyn diogelu’r bobol yna maen nhw’n gweithio gyda,” meddai.

Ystyried caniatáu ymweliadau

Dywedodd Eluned Morgan fod Llywodraeth Cymru’n ystyried caniatáu ymweliadau mewn cartrefi gofal “ymhen ychydig wythnosau”, yn sgil y rhaglen frechu.

“Yn sgil darpariaeth y brechlyn i gartrefi gofal, mae’n bosib y bydd hi’n haws caniatáu pobol i ymweld â chartrefi gofal ymhen ychydig o wythnosau,” meddai.

“Yn amlwg, mae’n rhaid i ni gael y cydbwysedd cywir, oherwydd mae’n rhaid i ni ddiogelu pobol sy’n byw mewn cartrefi gofal rhag y feirws.

“Am y tro, gan ein bod yn ymwybodol ei fod yn cymryd tair wythnos i’r brechlyn weithio, byddwn yn annog pobol i ddilyn y canllawiau rydyn ni wedi rhoi mewn lle sy’n gysylltiedig â chartrefi gofal.”

Ffigurau diweddaraf

Mae 630 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd ers dechrau’r pandemig i 192,912.

Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 21 yn rhagor o farwolaethau, gan ddod â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 4,775 – mwy na 13% o’r boblogaeth.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd fod cyfanswm o 416,306 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi.

Ychwanegodd yr asiantaeth fod 841 o ail ddosau wedi’u rhoi yn ogystal.

Mae 74.5% o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn erbyn hyn, ynghyd â 75.1% o breswylwyr cartrefi gofal, a 79.1% o staff cartrefi gofal.

£9.4m i gefnogi iechyd meddwl plant a phobol ifanc Cymru

“Buddsoddiad sylweddol yn dangos ein bod yn cydnabod yr effaith y mae’r pandemig yn ei chael” ar bobl ifanc, meddai Eluned Morgan