Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl plant a phobol ifanc yng Nghymru.
Ar ddechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £9.4m sy’n cydnabod effaith y pandemig ar bobol ifanc.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid oherwydd yr effaith mae bod i ffwrdd o’r ysgol a rhwydweithiau cymorth rheolaidd wedi cael ar bobol ifanc gan arwain at lefelau uwch o orbryder a chynnydd mewn problemau iechyd meddwl.
Yn ôl arolwg gan Mind Cymru gwaethygodd iechyd meddwl tri o bob pedwar person ifanc ar ddechrau’r pandemig.
‘Popeth o fewn ein gallu’
“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc yn dangos ein bod yn cydnabod yr effaith y mae’r pandemig yn ei chael arnynt ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella’r cymorth sydd ar gael iddynt,” meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles.
“Rydym yn deall y gall cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, mewn llawer o achosion, atal effeithiau andwyol tymor hwy, a dyna pam rydym yn rhoi blaenoriaeth i hyn.
“Rydym yn parhau i wario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’r GIG ac rwy’n falch ein bod yn cefnogi ein gwasanaethau gyda buddsoddiad ychwanegol yn y Gyllideb ddrafft.”
Mae ymchwil yn dangos bod problemau iechyd meddwl yn dechrau’n bennaf pan yn ifanc ac felly bydd £4m yn cael ei fuddsoddi mewn gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol mewn ysgolion.
Bydd £5.4m arall yn cael ei roi i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) er mwyn cefnogi pobol ifanc sydd angen cymorth mwy dwys yn y gymuned ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
Bydd hefyd mwy o gwnsela a chymorth emosiynol ar gael i blant ym mhob ysgol yng Nghymru.
‘Gwahaniaeth sylweddol’
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae sicrhau bod cymorth iechyd meddwl effeithiol ar gael i’n plant yn hanfodol os ydynt am dyfu i fod yn unigolion iach a hyderus.
“Fel rhan o’n dull ysgol gyfan, rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn yr ysgol a thu allan i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwybod lle i fynd am gymorth emosiynol ac yn teimlo’u bod yn cael digon o gefnogaeth.
“Bydd y cyllid o £4m yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r rhaglen hon a bydd yn gwella’r adnoddau a’r gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobol ifanc yn y cyfnod heriol hwn.”