Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud ei bod yn “hynod bryderus” am y coup milwrol yn Myanmar.
Yn ôl adroddiadau, mae’r fyddin wedi arestio arweinydd sifil y wlad Aung San Suu Kyi ac wedi cyhoeddi y bydd etholiad newydd yn cael ei gynnal ar ddiwedd blwyddyn o stad o argyfwng.
Mae plaid Aung San Suu Kyi, y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth, wedi rhyddhau datganiad yn dweud bod gweithredoedd y fyddin yn mynd yn groes i’r cyfansoddiad ac ewyllys yr etholwyr.
Yn ôl gorsaf deledu’r wlad, cafodd y coup milwrol ei gynnal yn rhannol oherwydd methiant y llywodraeth i weithredu yn dilyn honiadau gan y fyddin am dwyll etholiadol ym mis Tachwedd y llynedd a methiant y llywodraeth i ohirio’r etholiad oherwydd argyfwng y coronafeirws.
Daw’r cyhoeddiad am stad o argyfwng yn dilyn dyddiau o bryderon y byddai coup milwrol yn cael ei gynnal.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab bod y Deyrnas Unedig yn condemnio’r “stad o argyfwng yn Myanmar ac arestio aelodau blaenllaw o’r Llywodraeth Sifil yn anghyfreithlon.”
Ychwanegodd bod angen “parchu dymuniadau democrataidd pobl Myanmar.”
Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson hefyd wedi galw am ryddhau’r arweinwyr sifil ac wedi dweud eu bod yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa.