Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson ymhlith y rhai sydd wedi dymuno gwellhad buan i’r Capten Syr Tom Moore, sydd yn yr ysbyty ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Bedford ddydd Sul (Ionawr 31) ar ôl cael triniaeth am niwmonia am beth amser a phrawf positif am Covid-19 wythnos ddiwethaf.

Roedd y Capten Syr Tom Moore wedi codi mwy na £32 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd ar ôl cerdded 100 gwaith o amgylch ei ardd ychydig cyn ei ben-blwydd yn 100 oed yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Ebrill.

Roedd Boris Johnson wedi trydar nos Sul: “Mae fy meddyliau gyda @CaptainTomMoore a’i deulu. Ry’ch chi wedi ysbrydoli’r genedl ac rwy’n gwybod ein bod i gyd yn dymuno gwellhad buan i chi.”

Mae’r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer, Maer Llundain Sadiq Khan a’r canwr Michael Ball hefyd ymhlith y rhai sydd wedi dymuno gwellhad buan iddo.

Dywedodd teulu’r Capten Syr Tom Moore ei fod wedi cael ei gludo i’r ysbyty ddydd Sul am ei fod angen cymorth i anadlu ond nad oedd yn yr uned gofal dwys.

“Mae’r gofal meddygol y mae wedi’i gael yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn anhygoel ac ry’n ni’n gwybod y bydd y staff bendigedig yn Ysbyty Bedford yn gwneud popeth posib i’w wneud yn gyfforddus fel ei fod, gobeithio, yn gallu dychwelyd adref mor fuan â phosib,” meddai ei deulu.

Dywedodd llefarydd ar ran ei deulu wrth y BBC nad oedd wedi derbyn ei frechlyn Covid-19 oherwydd y feddyginiaeth mae’n ei gymryd ar gyfer niwmonia.