Mae’r bobl dlotaf yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o farw o Covid-19 na’r bobl lai difreintiedig, yn ôl adroddiad gan y Prif Swyddog Meddygol.
“Mae effeithiau uniongyrchol Covid-19 wedi dwysáu annhegwch iechyd sy’n bodoli eisoes yn ein cymdeithas,” meddai’r adroddiad gan Dr Frank Atherton.
“Yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig, daeth yn fwyfwy amlwg hefyd fod Covid-19 yn effeithio’n anghymesur ar iechyd pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig. Yng Nghymru, cafwyd tystiolaeth o elfen economaidd gymdeithasol mewn derbyniadau i ysbytai a marwolaethau.”
Rhwng mis Mawrth a Gorffennaf y llynedd roedd y gyfradd marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru bron ddwywaith yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Roedd 121.4 o farwolaethau i bob 100,000 o bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o’i gymharu â 65.5 o farwolaethau i bob 100,000 yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae’r bobl dlotaf yng Nghymru hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty a gorfod derbyn gofal dwys.
‘Bygythiad real iawn’
“Yn yr un modd â gweddill y byd, rydym wedi gorfod ymateb i fygythiad real iawn y pandemig hwn yng Nghymru,” meddai Dr Frank Atherton.
“Mae’n bygwth iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, cyflogaeth a systemau addysg, yr economi, a phob agwedd ar fywyd a dweud y gwir.
“Gyda’n gilydd a sut gallwn geisio dod allan o’r sefyllfa ddifrifol hon yn gryfach ac yn fwy parod i fynd i’r afael â rhai o’r heriau roeddem eisoes yn eu hwynebu a’r heriau’r a fydd o’n blaenau yn y dyfodol.”
‘Rhai’n dioddef mwy na’i gilydd, er nad yw’r feirws yn gwahaniaethu’
Mae llefarydd cydraddoldeb Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi croesawu’r adroddiad sy’n edrych ar ddechrau’r pandemig, ond mae wedi rhybuddio fod y sefyllfa yn newid yn gyflym.
“Mae hwn yn bandemig ofnadwy ac rydym yn aml yn dweud nad yw’n gwahaniaethu, ond mae rhai’n dioddef mwy na’i gilydd – mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau ei fod yn taro’r rhai mwyaf bregus galetaf,” meddai.
“Mae dau ystadegyn sy’n fy nharo yn yr adroddiad hwn. Un yw bod disgwyliad oes naw mlynedd yn fyrrach i’r grŵp o ddynion mwyaf difreintiedig o’i gymharu a’r lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Ond ystadegyn yr un mor ddamniol yw bod y bwlch mewn disgwyliad oes iachus rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig hyd yn oed yn waeth – 18.2 mlynedd i ddynion a 19.1 mlynedd i fenywod.
“Mae Covid-19 wedi effeithio ar bawb ond mae’r adroddiad hwn yn dangos ei fod wedi brifo’r cymunedau tlotaf yng Nghymru – ardaloedd fel Rhondda Cynon Tâf.”
Yn ôl yr adroddiad fe gollodd 22% o aelwydydd Cymru o leiaf 20% o’u henillion wythnosol rhwng mis Chwefror a mis Ebrill y llynedd.
“Mae hyn yn ein hatgoffa na allwn fynd yn ôl at sut oedd pethau – i lawer gormod o bobl yng Nghymru doedd pethau ddim yn wych cyn y pandemig,” ychwanegodd Leanne Wood.
“Rhaid i ni sicrhau bod y bwlch iechyd, sy’n rhy aml yn adlewyrchu’r bwlch cyfoeth yn ein cymdeithas, yn cael ei gau unwaith ac am byth.
“Yr her, fel erioed, yw nid yn unig nodi’r problemau sy’n ein hwynebu yn ein cymdeithas ond ei newid.”