Mae disgwyl i gwmni awyrofod Airbus roi gwybod i weithwyr yn eu ffatri ym Mrychdyn yn Sir y Fflint a fydd eu hwythnos waith yn cael ei gwtogi.

Byddai gweithwyr yn debygol o golli 6.6% o’u cyflog petai nhw’n pleidleisio o blaid cwtogi eu horiau gwaith o 10%.

Daw hyn wedi i’r cwmni gyhoeddi llynedd eu bod yn bwriadu cael gwared a 1,435 o swyddi yno.

Er bod disgwyl i nifer o weithwyr dderbyn diswyddiadau gwirfoddol y gobaith yw y bydd lleihau oriau’r gweithlu yn osgoi diswyddiadau gorfodol.

Bydd 3,500 o aelodau undeb Unite yn pleidleisio fore dydd Llun, Chwefror 1, ac mae disgwyl y canlyniad erbyn y prynhawn.

Mae’r ffatri yn Sir y Fflint yn cyflogi tua 6,000 o bobol, ond yn sgil y pandemig cafodd 3,200 eu rhoi ar gynllun ffyrlo Llywodraeth San Steffan ers mis Ebrill y llynedd.

Petai’r gweithwyr yn cytuno i’r trefniant newydd fe fyddai yn dod i rym pan fyddai’r cynllun ffyrlo yn dod i ben ac yn parhau tan y Nadolig.

 

Airbus Brychyn

“Newyddion dychrynllyd”: 1,435 o swyddi Airbus yn diflannu ym Mrychdyn

Plaid Cymru yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i “gamu i’r adwy”