Mae ymgynghoriad cyhoeddus i gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor yng Ngwynedd i hyd at 100%, yn dod i ben heddiw, (Chwefror 1).

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd y premiwm treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi ym mis Ebrill 2018, gan godi cyfanswm y dreth i berchnogion i 50%.

Er hynny, mae ymchwil gan Gabinet y Cyngor ar reoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau yn dangos fod nifer o ail gartrefi yn parhau i gynyddu yn y sir.

Gwynedd sydd â’r ganran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru – 10.77% o stoc dai’r sir.

‘Llywodraeth Cymru yn gweithredu ers tro’

Wythnos diwethaf dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, nad oedd Llywodraeth Cymru wedi diystyru newid y gyfraith yn ymwneud ag ail gartrefi, ond y byddai’n rhaid cael dealltwriaeth lawn o’r effaith bosibl cyn gwneud hynny.

“Rydym yn gweithredu yn y maes ers tro gan ragweld rhai datblygiadau ac wedi ymateb i’r sefyllfa bresennol mewn nifer o ffyrdd,” meddai.

Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Gellir cymhwyso premiwm o hyd at 100%.

O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm – a bennir ganddyn nhw – nid oes yr un ohonynt yn codi mwy na 50%.

Fodd bynnag yn ôl ymgyrchwyr iaith mae ymateb y Gweinidog yn “druenus o annigonol”.

‘Mater o argyfwng’

Eglurodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd fod ymchwil diweddar yn dangos fod y sefyllfa yn “fater o argyfwng” yno.

“Mae llawer iawn o bobl Gwynedd yn ei chael yn agos at amhosib i gael troed ar y farchnad dai – i brynu ac i rentu,” meddai.

“Y gwir ydi fod prisiau tai uchel yn sgil y galw am unedau gwyliau ac ail gartrefi yn gwthio prisiau ymhell y tu hwnt i afael pobl leol mewn nifer cynyddol o’n trefi a phentrefi.”

Fis Rhagfyr fe bleidleisiodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn unfrydol o blaid cynllun i fuddsoddi dros £77 miliwn er mwyn sicrhau 1,500 o gartrefi fforddiadwy i drigolion lleol yng Ngwynedd.

Er mwyn gwireddu’r cynlluniau, bydd y Cyngor yn ail-fuddsoddi £22.9 miliwn o bremiwm treth Cyngor ar ail dai.

“Mae hawl gan y Cyngor i godi 100% o bremiwm ail dai ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod o amser. Felly rydym yn awyddus i glywed barn trigolion Gwynedd, perchnogion ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod ar y ffordd ymlaen,” ychwanegodd.

Mae disgwyl y bydd y Cyngor yn penderfynu a fydd cynnydd yn y dreth dros y misoedd nesaf.

Plaid Cymru yn galw am godi premiwm ail gartrefi a thai gwag

“Mae’r farchnad dai wedi gorboethi ers diwedd y cyfnod clo a chynnydd anhygoel mewn prisiau tai”