Mae’r cwmni hedfan Ryanair yn wynebu’r “flwyddyn fwyaf heriol” yn ei hanes ac yn disgwyl colledion o bron i 1 biliwn ewro.

Dywedodd y cwmni Gwyddelig fod Covid-19 yn parhau i “gael effaith ddinistriol ar draws y diwydiant” gan “arwain at golledion o rhwng 850m ewro (£750m) a 950m ewro (£838m).”

Fodd bynnag, dywedodd Ryanair y byddai mewn sefyllfa lle gallai “fanteisio ar y cyfleoedd niferus” ar ôl y pandemig, “yn enwedig lle mae cwmnïau hedfan eraill wedi torri capasiti’n sylweddol neu wedi mynd i’r wal”.

Cyhoeddodd y cwmni golledion yn y trydydd chwarter o 307 miliwn ewro (£270 miliwn) ddydd Llun (Chwefror 1), gan ychwanegu bod 8.1 miliwn o deithwyr wedi defnyddio Ryanair yn y tri mis hyd at fis Rhagfyr, o’i gymharu â 35.9 miliwn yn yr un chwarter yn 2019.

Mae’r golled ar gyfer y chwarter yn gwrthgyferbynnu ag elw o 88 miliwn ewro (£78 miliwn) ar ôl treth yn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: “2021 fydd y flwyddyn fwyaf heriol yn hanes 35 mlynedd Ryanair.

“Wrth i ni edrych y tu hwnt i argyfwng Covid-19, gyda brechiadau’n cael eu cyflwyno, mae Grŵp Ryanair yn disgwyl costau llawer is a mantolen gref, a fydd yn ein galluogi i gyflwyno prisiau is ac ychwanegu awyrennau rhatach i fanteisio ar y cyfleoedd  niferus a fydd ar gael ym mhob marchnad ledled Ewrop, yn enwedig lle mae cwmnïau awyrennau eraill wedi lleihau capasiti’n sylweddol neu wedi methu.”