Mae’r cwmni ar lein Asos wedi cadarnhau ei fod wedi prynu Topshop, Topman, Miss Selfridge ac HIIT am £265 miliwn.
Dywedodd gweinyddwyr grŵp Arcadia Syr Philip Green fod Asos wedi talu £65 miliwn yn ychwanegol am stoc gyfredol a stoc a archebwyd ymlaen llaw gan y siopau.
Er y bydd 300 o weithwyr y grŵp yn cadw eu swyddi mae 2,500 o swyddi yn y fantol gan nad yw unrhyw un o’r siopau stryd fawr yn rhan o’r fargen.
Daw hyn wedi i gwmni ar-lein Boohoo brynu brand a gwefan Debenhams am £55 miliwn, ond nid y siopau.
Dywedodd prif weithredwr Asos Nick Beighton: “Rydym yn hynod falch o fod yn berchnogion newydd brandiau Topshop, Topman, Miss Selfridge ac HIIT.
“Mae caffael y brandiau eiconig hyn ym Mhrydain yn foment hynod gyffrous i Asos a’n cwsmeriaid a bydd yn helpu i gyflawni ein strategaeth aml-frand.
“Rydym wedi bod yn rhan ganolog i yrru eu twf diweddar ar-lein ac, o dan ein perchnogaeth ni, byddwn yn eu datblygu ymhellach, gan ddefnyddio ein harbenigedd dylunio, marchnata, technoleg a logisteg, a gweithio’n agos gyda phartneriaid manwerthu strategol allweddol yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.”
‘Ergyd arall i stryd fawr Cymru’
Mewn ymateb i’r newyddion na fydd siopau o dan grŵp Arcadia gan gynnwys Topshop yn cael eu hachub, meddai Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Helen Mary Jones AS: “Bydd colli siopau o dan grŵp Arcadia yn golygu colli nifer sylweddol o swyddi ledled Cymru.
“Mae hyn yn ergyd arall i stryd fawr Cymru yn dilyn y cyhoeddiad y bydd siopau Debenhams ar gau, ac mae’n debygol nad dyma fydd yr olaf i gau gan effeithio ar swyddi yng Nghymru.
“Mae hefyd yn bryder mawr mai’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n colli eu swyddi yw menywod – sydd eisoes yn cael eu taro’n galed yn economaidd gan y pandemig.”
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt, ac mae’n rhaid iddi sicrhau y bydd cyfleoedd cyflogaeth eraill yn wyneb effaith y pandemig ar y stryd fawr.”