Mae Llywodraeth Prydain wedi archebu 40 miliwn dos ychwanegol o’r brechlyn Covid-19, Valneva, sy’n cael ei gynhyrchu yn yr Alban.
Mae’n golygu bod 100 miliwn dos o Valneva bellach wedi’i harchebu, sy’n ddigon ar gyfer pob oedolyn yn y Deyrnas Unedig. Mae disgwyl i’r 40m dos gyrraedd yn 2022.
Mae’r Llywodraeth hefyd wedi sicrhau bod modd archebu 90 miliwn dos yn y cyfnod rhwng 2023 a 2025.
Dywed Valneva bod gwerth yr archeb bellach yn £1.24 biliwn.
Mae’r brechlyn yn parhau i fod mewn treialon clinigol. Os yw’n cael ei gymeradwyo mae disgwyl i’r brechlyn gael ei ddefnyddio ar draws y DU erbyn ail hanner 2021.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng y bydd yr archeb “yn sicrhau bod gennym gyflenwad digonol i amddiffyn y cyhoedd ym Mhrydain yn 2021 a thu hwnt.”
Ychwanegodd y byddai’r safle yn yr Alban sy’n cynhyrchu Valneva “yn helpu i gefnogi swyddi’n lleol.”