Bydd prifysgolion yng Nghymru yn parhau i addysgu ar-lein tan y Pasg.

Mae Prifysgolion Cymru wedi cadarnhau mai dim ond nifer fach o gyrsiau ymarferol neu gyrsiau iechyd fydd yn cael eu haddysgu wyneb yn wyneb cyn hynny.

Daeth mwyafrif o ddysgu wyneb yn wyneb i ben ym Mhrifysgolion Cymru cyn y Nadolig.

Fe gynghorwyd myfyrwyr bryd hynny i ddychwelyd i brifysgolion ychydig cyn i addysgu wyneb yn wyneb ailddechrau, roedd hynny i fod i ddigwydd yn wreiddiol ddechrau fis Chwefror.

Dydy Llywodraeth Cymru heb amlinellu unrhyw gynlluniau eto i adael i fyfyrwyr ddychwelyd dros y Pasg.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi £40m o gyllid ychwanegol i alluogi prifysgolion i helpu myfyrwyr.

‘Rhoi sicrwydd i fyfyrwyr’

Eglurodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru fod y penderfyniad wedi ei wneud er mwyn “rhoi sicrwydd i fyfyrwyr”.

“Mae’n bwysig nodi bod myfyrwyr ar ystod o gyrsiau eisoes wedi dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb, gan gynnwys llawer o gyrsiau â gofynion ymarferol,” meddai.

“Rydym yn rhagweld y bydd nifer fach o fyfyrwyr ychwanegol yn dychwelyd i gampysau cyn y Pasg lle mae angen iddynt gael mynediad at gyfleusterau ac adnoddau.

“Gall myfyrwyr a fydd yn defnyddio cyfleusterau neu adnoddau dysgu ar y campws yn ystod yr wythnosau nesaf fod yn hyderus bod ein campysau yn parhau i fod yn amgylcheddau diogel, sydd a’r rheolau ymbellhau’n gymdeithasol a phrotocolau glanhau trwyadl.

“Cyn bo hir, bydd prifysgolion yn cysylltu gyda myfyrwyr i roi gwybod am y cynlluniau newydd.

“Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i bawb. Mae lles myfyrwyr a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i brifysgolion yng Nghymru a byddem yn annog unrhyw fyfyriwr sy’n cael anawsterau neu galedi i siarad â’u sefydliad.”

“Pan mae pobol yn talu lot o bres am rhywbeth, mae angen bod fymryn yn fwy teg hefo nhw”

Ymateb myfyrwyr i’r £40m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w cefnogi

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi £40m i brifysgolion gael cefnogi myfyrwyr

Bydd yr arian yn helpu myfyrwyr i dalu costau gan gynnwys llety