Efallai y bydd rhieni a phlant yn gwybod erbyn diwedd yr wythnos a fydd ysgolion yng Nghymru yn ailagor ar ôl hanner tymor.
Dywedodd Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan, bod trafodaethau’n parhau gydag undebau llafur yr wythnos hon yn y gobaith o allu gwneud cyhoeddiad ddydd Gwener.
Gellid dechrau dychwelyd plant i’r ystafell ddosbarth gam wrth gam, gan ddechrau gyda phlant ysgol gynradd, ar ôl yr egwyl hanner tymor ym mis Chwefror – os bydd achosion Covid-19 yn parhau i ostwng.
Os gall disgyblion cynradd ddychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor, byddai’n rhoi Cymru ar y blaen i wledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Yn Lloegr nid oes disgwyl i ddisgyblion ddychwelyd cyn 8 Mawrth, meddai Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson.
Penderfynol
Dywedodd Ms Morgan: “Rydym yn gwbl benderfynol o ailagor ysgolion cyn gynted â phosibl a dyna pam y bydd trafodaethau dwys gydag undebau yr wythnos hon i sicrhau y gallwn roi’r holl bethau ar waith fel y gallwn sicrhau diogelwch y myfyrwyr a’r athrawon cyn belled ag y bo modd.
“Mae’n rhaid i ni gadw llygad ar lefelau’r feirws yn ein cymunedau, a byddwn bob amser yn edrych ar y dystiolaeth wyddonol i’n cefnogi yn yr hyn rydym yn ei wneud.”
Dywedodd Ms Morgan wrth y gynhadledd i’r wasg fod y Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi dweud ei fod am roi pythefnos o rybudd i rieni, disgyblion a staff addysgu cyn dechrau ddychwelyd plant yn raddol.
“Rydym yn disgwyl cyhoeddiad ar hynny ddydd Gwener ond wrth gwrs bydd hynny’n cael ei bennu gan y trafodaethau fydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon,” meddai.
“Bydd y ffocws yn llwyr ar y plant ieuengaf, [a’r plant] sy’n ei chael hi’n anodd dysgu ar-lein ac sydd angen y cymdeithasu hwnnw, efallai, yn fwy na rhai o’r plant hŷn.
“Rydym yn benderfynol iawn o geisio cael y plant cyfnod sylfaen hynny yn ôl i’r ysgol cyn gynted â phosibl.”
Cyrsiau galwedigaethol
Dywedodd Ms Morgan fod Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar ffyrdd o gael myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau galwedigaethol yn ôl i’r ystafell ddosbarth.
“Dyna pam, os gallwn, yr hoffem gael y myfyrwyr hynny’n ôl i’r ysgol ar y cyrsiau ymarferol, mwy galwedigaethol, hynny, fel y gellir eu hasesu’n gywir,” meddai.
“Wrth gwrs, bydd y trafodaethau hynny’n parhau, a bydd ymdrech i sicrhau bod y plant hynny, a’r bobl hynny’n gallu cael eu hasesu’n iawn, waeth beth fo’r sefyllfa.”
Yr wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn deall y “pryderon” sydd gan staff ysgol am fyfyrwyr yn dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb, ond y byddai popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod eu hamgylcheddau gwaith yn ddiogel.
Y plant ieuengaf yw’r lleiaf tebygol o ddioddef o Covid-19 neu ei ledaenu i bobl eraill, meddai, ac mae angen gwneud gwaith i “atgyweirio difrod” o flwyddyn heb addysg yn yr ystafell ddosbarth.
Lansio gwefan i gefnogi rhieni Saesneg sydd â phlant mewn addysg Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio gwefan er mwyn helpu rhieni sy’n siarad Saesneg ac sydd â phlant mewn addysg Gymraeg.
“Rydyn ni wedi darparu canllawiau i rieni plant sy’n mynychu ysgolion iaith Gymraeg ac rydyn ni wedi gweithio gyda’r consortiwm rhanbarthol, Estyn, y BBC ac S4C i sicrhau bod digon o adnoddau iaith Gymraeg i blant ar yr Hwb,” meddai Eluned Morgan.
“Mae’n bwysig i rieni wybod, yn enwedig rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg, y bydd y sgiliau iaith mae plant yn datblygu yn aros gyda nhw trwy gydol eu bywyd.
“Tra’u bod nhw’n gweithio o adref, anogwch nhw i wylio a gwrando ar deledu a radio iaith Gymraeg – hyd yn oed yn y cefndir – fel eu bod nhw’n cadw mewn cysylltiad â’r iaith.
“Os oes angen mwy help a chefnogaeth, mae gwefan newydd wedi ei lansio heddiw.”