Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion yn galw ar y Canghellor Rishi Sunak i roi’r gorau i “obsesiwn” Llywodraeth Prydain â GDP (Cynnyrch Mewnwladol Crynswth), gan roi adferiad amgylcheddol wrth galon yr adferiad economaidd.

Dywed Ben Lake fod rhaid rhoi’r cyfarpar cywir i Gymru fynd i’r afael â newid hinsawdd, a chefnu ar “yr obsesiwn â GDP fel mesur o lwyddiant”.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi Arolwg Dasgupta, sef adolygiad o Economeg Bioamrywiaeth, a gafodd ei gomisiynu gan y Trysorlys ac a gafodd ei gefnogi gan banel o ymgynghorwyr o feysydd polisi cyhoeddus, gwyddoniaeth, economeg, cyllid a busnes.

Mae’r adolygiad yn galw am fframwaith newydd er mwyn rhoi ystyriaeth i fyd natur mewn economeg a’r broses o wneud penderfyniadau.

Yn ôl Ben Lake, mae’r adolygiad yn “symudiad arwyddocaol sydd i’w groesawu wrth feddwl yn economaidd”, ac mae’n rhaid iddo esgor ar newidiadau ym mholisïau economaidd Llywodraeth Geidwadol Prydain cyn y Gyllideb ar Fawrth 3.

Mae’n feirniadol o’r Trysorlys am barhau i ddefnyddio Cynnyrch Mewnwladol Crynswth fel llinyn mesur llwyddiant economaidd, sy’n “llwyr anwybyddu ecsbloetio anghynaladwy ar adnoddau’r blaned”, ac o Fil y Farchnad Fewnol am amddifadu Cymru o’r pwerau angenrheidiol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn ôl y Bil, does gan Gymru mo’r hawl i weithredu’n uniongyrchol drwy atal y defnydd o blastig un tro, ac mae Ben Lake yn dweud bod “rhaid mynd i’r afael â hynny ar frys”.

Ymateb Ben Lake

“Mae cyhoeddi Arolwg Dasgupta yn golygu symudiad arwyddocaol mewn meddwl yn economaidd sydd i’w groesawu, gan osod adferiad natur wrth galon ein hadferiad economaidd,” meddai Ben Lake.

“Mae’n hanfodol fod y Trysorlys yn ystyried ei argymhellion cyn y Gyllideb ar Fawrth 3.

“Mae effeithiau newid hinsawdd i’w teimlo’n gynyddol gan bobol ledled y byd ond eto, mae gwledydd datblygiedig bondigrybwyll yn parhau â’u hobsesiwn â GDP fel mesur o lwyddiant a thwf, sy’n llwyr anwybyddu ecsbloetio anghynaladwy ar adnoddau’r blaned y mae’r fath obsesiwn yn ei olygu.

“Cafwyd ymgais yng Nghymru i dorri’n rhydd rhag yr olwg gul a dinistriol hon ar gynnydd gyda’r egwyddorion wedi’u hymgorffori yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac felly, roedd hi’n destun siom gweld yn ddiweddar fod Llywodraeth Prydain wedi amddifadu Cymru o gyfarpar angenrheidiol i frwydro newid hinsawdd ar ffurf Bil y Farchnad Fewnol 2020.

“Mae’r Ddeddf, yn gyfreithiol, yn atal Cymru rhag gweithredu i gyfyngu ar y defnyd o blastig un tro. Rhaid  mynd i’r afael â hynny ar frys.

“Mae Dasgupta yn dangos sut y gall yr economi weithio er lles ein hamgylchedd, yn hytrach na gweithio yn ei erbyn.

“Y Gyllideb yw cyfle euraid y Canghellor i roi hynny ar waith.”