Yn y gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei bod hi’n “well” i bobl sy’n gwneud rheolau coronafeirws eu dilyn eu hunain, wrth drafod ymweliad Boris Johnson â’r Alban i hyrwyddo’r Undeb yr wythnos hon.
Dywedodd, hefyd, mai dim ond “yr isafswm a oedd yn angenrheidiol” y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i wneud o ran cau’r ffiniau.
Wrth ateb cwestiwn ynghylch a fyddai croeso i Brif Weinidog Prydain yng Nghymru, ar ôl i’w daith i labordy yn Glasgow ddydd Iau ysgogi ffrae ynghylch a oedd yn daith hanfodol, dywedodd Mr Drakeford: “Rwyf i fy hun wedi gadael Caerdydd ddwywaith ers mis Tachwedd, dwi’n meddwl.
“Es i unwaith i’r Rhondda, lle’r oedd tip glo wedi llithro, ac es i unwaith y penwythnos diwethaf i Sgiwen lle’r oedd llifogydd mawr wedi digwydd.
“Rydym ar Lefel 4 mewn argyfwng iechyd cyhoeddus”
“Felly dwi ond yn gadael fy nghartref neu fy lle gwaith mewn argyfwng go iawn a hynny oherwydd mai’r rheolau yng Nghymru yw aros gartref, a gweithio gartref. Rydym ar Lefel 4 mewn argyfwng iechyd cyhoeddus,” meddai.
“Ar y cyfan, rwy’n credu ei bod yn well i bobl sy’n gwneud rheolau yr ydym yn disgwyl i bobl eraill eu dilyn, ddilyn y rheolau hynny eu hunain.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, bod disgwyl i Mr Johnson weld yn “uniongyrchol” y gwaith sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU fel rhan o ymateb Cymru i Covid-19.
“Mae’n gwbl briodol bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn weladwy i gymunedau a busnesau ar draws pob rhan o’r DU, yn enwedig yn ystod y pandemig.
“Mae gwaith anhygoel yn digwydd yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn y feirws, llawer ohono’n cael ei gyflawni a’i gefnogi gan Lywodraeth y DU, ac mae’n iawn bod y Prif Weinidog yn ei weld yn uniongyrchol ac yn diolch i’r rhai sy’n gysylltiedig pan gaiff y cyfle.”
Teithiodd y Prif Weinidog i Glasgow a Livingston i ddadlau bod yr Undeb wedi bod yn rhan annatod o’r ffordd yr oedd brechlynnau Covid-19 yn cael eu darparu, ond dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon nad oedd ymweliad Mr Johnson “yn hanfodol” yn ystod y mesurau cloi presennol, gan ddadlau bod gan wleidyddion “ddyletswydd i arwain drwy esiampl”.
‘Gwneud y lleiaf yr oedden nhw’n meddwl y gallen nhw ei wneud’
Yn y gynhadledd, hefyd, dywedodd Mr Drakeford y byddai cau ffiniau’r DU yn llwyr yn cynnig amddiffyniad “mwy” rhag y coronafeirws na’r cyfyngiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yr wythnos hon.
“Fe wnes i ddweud mewn cyfarfod gyda llywodraethau’r DU fod hyn yn fy nharo fel Llywodraeth y DU yn gwneud y lleiaf yr oedden nhw’n meddwl y gallen nhw ei wneud, yn hytrach na’r mwyaf sydd angen ei wneud.
“Ond fel Llywodraeth Cymru, nid ydym wir yn cael yr holl wybodaeth sydd gan Lywodraeth y DU drwy ei chyfrifoldebau tramor a’r Gymanwlad, a’i chyfrifoldebau diogelwch ar y ffin.
“Rwy’n credu eu bod wedi gwneud yr isafswm a oedd yn angenrheidiol yr wythnos hon ac rydym wedi eu cefnogi i wneud hynny. Credaf fod y ddadl o blaid gwneud mwy yn un sylweddol.
“Nid oes yr un ohonom yn gwybod ble y gallai amrywiolyn newydd ymddangos. Gall ymddanogs mewn gwlad lle nad oes gennym unrhyw bryderon o gwbl ar hyn o bryd.
“Ac yn y trefniadau presennol, gallai pobl fod yma gyda’r feirws newydd hwnnw cyn i ni wybod unrhyw beth amdano.”