Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw cynlluniau cwarantin newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan yn mynd yn ddigon pell a bod angen trafodaethau pellach.

Daw hyn wedi i Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, gyhoeddi rhaid i bobol sy’n cyrraedd Lloegr o wledydd sydd â lefelau uchel o achosion o’r feirws dreulio cyfnod yn hunan ynysu mewn gwestai.

Bydd hyn yn cynnwys dinasyddion Prydeinig, a bydd rhaid iddynt dalu am y gwesty tra’n ynysu yno am 10 diwrnod.

Oherwydd pryderon ynghylch amrywiolion newydd o’r feirws mae’r mesurau newydd yn berthnasol i bobol sy’n cyrraedd o 22 gwlad wahanol gan gynnwys gwledydd o Dde America, de cyfandir Affrica a Phortiwgal.

‘Ddim yn mynd ddigon pell’

Er bod Maes Awyr Caerdydd ynghau, pwysleisiodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod angen cydweithio i gryfhau’r mesurau.

“Rydym wedi cytuno bod angen i bedair gwlad y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon weithredu ar y cyd i gryfhau mesurau iechyd ar y ffin er mwyn atal lledaeniad pellach y coronafeirws,” meddai’r llefarydd.

“Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn credu bod y dull a nodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd yn ddigon pell. Bydd trafodaethau pellach ar fanylion y cynigion cyn gynted â phosibl.”

Sylwadau Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid

Mae’r Blaid Lafur yn Llundain hefyd wedi beirniadu’r cynlluniau. Yn ôl Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen, mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “rhy gyfyngedig”.

“Dydyn ni ddim yn gwybod o ble y daw’r amrywiolion nesaf a’r gwir yw bod y Llywodraeth unwaith eto gam tu ôl,” meddai.

“Un o’r meysydd allweddol mae’r Llywodraeth wedi methu ei ddiogelu yw ein ffiniau, mae’n rhaid i ni ddysgu o gamgymeriadau’r gorffennol a gweithredu nawr,” meddai.

“Mae cyfyngu cwarantinio mewn gwestai i nifer cyfyngedig o wledydd lle gwaharddwyd teithio ohonynt [gan wladolion tramor] eisoes yn golygu nad yw cynigion yr Ysgrifennydd Cartref yn mynd yn ddigon pell.

“Ac efallai mai dyna pam mae’n ymddangos bod papurau newydd wedi’u briffio nad yw’r Ysgrifennydd Cartref yn bersonol yn cefnogi’r polisi y mae hi bellach yn ei argymell i’r cyhoedd?”

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel gyhoeddi manylion pellach am y polisi yn fuan.

Gwahardd teithio er pleser

Wrth gyhoeddi’r rheol newydd dywedodd Boris Johnson y bydd gwaharddiad ar deithio er pleser yn cael ei orfodi mewn meysydd awyr a phorthladdoedd o hyn allan.

“Rwyf am wneud hyn yn glir, o dan y rheolau i aros gartref, ei bod yn anghyfreithlon gadael cartref i deithio dramor at ddibenion hamdden. Byddwn yn gorfodi hyn mewn porthladdoedd a meysydd awyr drwy ofyn i bobol pam eu bod yn gadael a’u cyfarwyddo i ddychwelyd adref os nad oes ganddynt reswm dilys dros deithio.”

Cyfrifoldeb cwmnïau awyrennau fydd hi i holi pobol am eu rheswm dros deithio cyn caniatáu iddynt hedfan.

Gallai cwmnïau wynebu dirwy am beidio gwneud hyn.

Mewn ymateb mae prif weithredwyr British Airways, EasyJet a Virgin wedi galw am becyn cymorth pwrpasol i gefnogi cwmnïau awyrennau’r Deyrnas Unedig.

Awyren British Airways

Disgwyl i reolau cwarantîn gynnwys teithwyr i Gymru

Disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cynlluniau i gadw pobol mewn gwestai am gyfnod ar ôl cyrraedd er mwyn atal ymlediad y coronafeirws