Mae’r gweinidog yn y Cabinet, Michael Gove, wedi mynnu bod taith Boris Johnson i’r Alban yn “hollol hanfodol” a hynny er gwaetha’ beirniadaeth gan Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon i’w ymweliad.
Mynnodd Michael Gove ei bod yn ddiogel i’r Prif Weinidog ymweld â’r Alban a’i fod yn “hanfodol” iddo weld y cynnydd yn y gwaith o gyflwyno’r brechlyn Covid.
“Ni fydd unrhyw berygl i iechyd unrhyw un o ganlyniad, i’r gwrthwyneb, fe fydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod y cynllun brechu yn yr Alban yn cael cefnogaeth lawn Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Michael Gove wrth BBC Radio Scotland.
Cyn y daith heddiw (Dydd Iau, Ionawr 28) bu Boris Johnson yn son am y “buddion o gydweithredu” y mae’r Undeb wedi’i sicrhau wrth ddelio gydag argyfwng y coronafeirws, sydd wedi arwain at farwolaeth mwy na 100,000 o bobl yn y DU.
Daw ei ymweliad wrth i’r galw am gynnal ail bleidlais ar annibyniaeth i’r Alban ddwysau.
Mae Nicola Sturgeon yn dadlau os yw ei phlaid, yr SNP, yn ennill mwyafrif yn yr etholiad yn Holyrood ym mis Mai, y dylai hynny arwain at gynnal pleidlais arall.
Mae hi wedi dadlau nad yw ymweliad Boris Johnson yn “hanfodol” gan ei gyhuddo o “ofni democratiaeth” am wrthod cefnogi ail bleidlais.