Mae undeb wedi galw am “ymchwiliad llawn” wedi marwolaeth aelod o staff yn asiantaeth drwyddedu’r DVLA yn Abertawe.

Mae’n debyg bod y gweithiwr wedi marw ar ôl cael prawf positif am Covid-19.

Dywedodd undeb y PCS eu bod nhw’n “hynod bryderus” a bod yn rhaid cynnal ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth y gweithiwr.

Mae’r undeb hefyd wedi galw unwaith eto am ganiatáu i aelodau o staff weithio gartre er mwyn lleihau’r risg iddyn nhw.

Fis diwethaf fe fu 535 o achosion positif o Covid ymhlith staff yn y ganolfan yn Abertawe ers mis Medi.

‘Rhaid cynnal ymchwiliad llawn’

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y PCS Mark Serwotka: “Rydym yn hynod bryderus ac wedi ein tristau yn dilyn y newyddion am farwolaeth aelod o staff y DVLA.

“Mae’n rhaid cynnal ymchwiliad llawn i’r amgylchiadau. Does dim dwywaith bod mynnu bod mwy na 2,000 o staff y DVLA yn mynd i’r gwaith bob dydd yn mynd i arwain at ragor o achosion Covid sy’n cynyddu’r posibilrwydd o ragor o farwolaethau.”

Mae llefarydd ar ran y DVLA wedi cadarnhau bod aelod o staff wedi marw ac wedi dweud bod eu meddyliau gyda theulu’r gweithiwr gan ychwanegu mai “diogelwch staff yw ein ffocws drwy gydol y pandemig” a’u bod yn parhau i weithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Daw’r newyddion diweddaraf yn sgil pryderon am fesurau iechyd a diogelwch yn y ganolfan. Roedd prif weithredwr y DVLA, Julie Lennard, wedi sicrhau Aelodau Seneddol ddydd Mercher (Ionawr 27) bod yr holl fesurau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn yn eu safleoedd.

Bu Julie Lennard, ynghyd â chyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac ystadau’r DVLA, Louise White, yn wynebu cwestiynau gan ASau ar Bwyllgor Trafnidiaeth San Steffan ar y mater ddoe.

Roedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, hefyd wedi dweud fod ei lywodraeth yn gweithio’n “ddi-stop” i fynd i’r afael gydag achosion Covid-19 yn y DVLA yn Abertawe.

Llywodraeth Prydain yn gweithio’n “ddi-stop” i fynd i’r afael ag achosion Covid-19 yn y DVLA, medd Boris Johnson

Cafodd mwy na 500 o achosion eu nodi ar y safle yn Abertawe rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Coronafeirws yn y DVLA: Mark Drakeford yn anfodlon ag ymateb gweinidogion San Steffan

Dywed undeb PCS ar ran staff y DVLA fod nifer o weithwyr yn ofni mynd i mewn i’r swyddfa
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Coronafeirws yn y DVLA: gweinidogion Llywodraeth Prydain dan y lach

Honiadau eu bod nhw wedi methu â diogelu gweithwyr rhag y feirws yn dilyn un o’r ymlediadau mwyaf