Mae sgriptwraig Parch a 35 Diwrnod wedi troi nôl at lenydda…

Cyfrol o atgofion personol am blentyndod ac arddegau’r awdures dan olau’r lloer yng Ngheredigion yw Lloerganiadau (Y Lolfa). Hon yw ei chyfrol Gymraeg gyntaf ers cyhoeddi Awr y Locustiaid yn 2010. Ac mae’n dweud bod “rhywbeth arwyddocaol am ddegawd”.