Y darlunwyr sy’n codi calon

O bodlediadau i gloriau llyfrau, o brints del i gloriau senglau – mae yna alw mawr am waith darlunwyr ar hyn o bryd. Dyma’r erthygl gyntaf mewn cyfres yn sgwrsio gyda rhai o’n darlunwyr dawnus sydd wedi dal dychymyg y genedl, a hynny ar adeg heriol tu hwnt…