Bu Mark Cyrff yn cydweithio gydag un o hen benau ifanc y Sîn, ac mae’r canlyniad yn hyfryd…

Eleni mae Lewys Wyn, canwr-gitarydd-arweinydd Yr Eira, wedi gosod her iddo’i hun – cydweithio gyda 12 cerddor arall i gyhoeddi un sengl bob mis am flwyddyn gron.

Mae’r sengl gyntaf yn cael ei chyhoeddi fory, dan enw project unigol y cerddor, Sywel Nyw (sef Lewys Wyn am yn ôl).