Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, wedi dweud fod ei lywodraeth yn gweithio’n “ddi-stop” ar ôl i achosion Covid-19 gael eu cyhoeddi yn swyddfa’r DVLA yn Abertawe.

Daw hyn wedi i brif weithredwr y DVLA Julie Lennard, ynghyd â chyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac ystadau’r DVLA, Louise White, wynebu cwestiynau gan ASau ar Bwyllgor Trafnidiaeth San Steffan ar y mater.

Dywedodd Julie Lennard fod 546 o achosion yn y sefydliad ers mis Mawrth 2020.

Dywedodd fod 535 achos rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd yng nghanolfan alwadau asiantaeth drwyddedu’r DVLA.

Ond dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Huw Merriman AS, fod y DVLA wedi nodi o’r blaen fod yr achosion wedi’u lledaenu dros gyfnod hirach o amser.

Mae undeb y PCS wedi galw ar weinidogion i ymyrryd ar y mater.

“Anfaddeuol”

Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw, dywedodd yr AS Llafur Carolyn Harris (Dwyrain Abertawe) wrth Dŷ’r Cyffredin: “O ystyried bod y Prif Weinidog eisoes wedi dweud heddiw y bydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr holl gamau y mae ei Lywodraeth wedi’u cymryd yn ystod y pandemig, a wnaiff gadarnhau y bydd hyn yn cynnwys rheoli achosion o Covid yn wael ac yn fyrbwyll ar safleoedd Llywodraeth DVLA yn fy etholaeth?

“Ac a fydd hefyd yn sicrhau bod ei Ysgrifennydd Trafnidiaeth [Grant Shapps] yn atebol am y difrod a’r dinistr anfaddeuol y mae hyn wedi’i achosi?”

Atebodd Boris Johnson: “Rydym wedi bod yn gweithio’n ddi-stop ar y broblem yn y DVLA ac mae’r holl staff sy’n gallu gweithio gartref yn gwneud hynny.

“Mae camau wedi cael eu cymryd i leihau nifer y bobl ar y safle ar unrhyw un adeg.

“Ac mae mwy na 2,000 o brofion wedi cael eu cynnal gan y DVLA yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig gyda’r holl ganlyniadau hyd yn hyn yn dod yn ôl yn negyddol.”

Mark Drakeford “ddim yn fodlon â’r ateb cyntaf a gefais”

Wrth siarad â’r BBC ddydd Llun (Ionawr 25), dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod yn rhaid i bobl ufuddhau i reolau Covid yng Nghymru.

Dywedodd: “Rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf at weinidogion yn Llywodraeth y DU yn mynegi pryderon am y straeon rydym wedi bod yn eu clywed gan weithwyr rheng flaen.

“Roeddwn yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall, os ydych yn gweithio yng Nghymru, mai rheolau Cymru y mae’n rhaid i chi ufuddhau iddynt a dim ond yr wythnos diwethaf, gwnaethom gryfhau amddiffyniadau yn y gweithle ymhellach i bobl yng ngoleuni amrywiolyn newydd y feirws.

“Doeddwn i ddim yn fodlon â’r ateb cyntaf a gefais, roeddwn i’n teimlo bod bwlch rhwng yr hyn roedd gweinidogion yn ei ddweud wrthym a’r hyn roedden ni’n ei glywed gan bobol sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y DVLA.

“Rwyf wedi cael ateb pellach, bydd yn rhaid i ni sicrhau bod yr holl fesurau diogelu sydd eu hangen ar y gyfraith yng Nghymru ar waith a bod y DVLA yn cael ei drefnu a’i redeg mewn ffordd sy’n rhoi diogelwch ei staff ar flaen y gad o ran yr hyn y mae’n ei wneud o ystyried yr argyfwng iechyd cyhoeddus yr ydym yn byw drwyddo.”