Mae cyfyngiadau dros dro mewn grym ar ôl i achos o’r ffliw adar gael ei gadarnhau mewn ffesantod ar Ynys Môn.

Mae’r parth rheoli dros dro o amgylch yr eiddo sydd wedi’i heintio, er mwyn cyfyngu ar y risg y bydd y clefyd yn lledaenu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws yn isel iawn ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud yn glir nad yw Ffliw Adar yn peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr.

Mae disgwyl canlyniadau labordy pellach yn ystod y 48 awr nesaf i benderfynu a yw’r feirws yn fath Hynod Bathogenig. Os felly, bydd y parth rheoli dros dro yn cael ei ehangu.

Mae nifer y marwolaethau ymhlith yr adar yn yr eiddo’n uchel a bydd yr holl adar sydd wedi goroesi yn y grŵp sydd wedi’i effeithio’n cael eu lladd ar unwaith, meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop

Dyma’r cadarnhad cyntaf o’r clefyd yng Nghymru yn ystod gaeaf 2020/21. Ond mae’n dilyn cadarnhad o sawl achos o Ffliw Adar mewn rhannau eraill o’r DU y gaeaf yma. Hefyd, mae’r feirws wedi’i ganfod mewn llawer o adar gwyllt, adar dŵr yn bennaf, gan gynnwys yng Nghymru.

“Gwyliadwrus”

Dywedodd Christianne Glossop: “Mae’r achos hwn o Ffliw Adar mewn ffesantod ar Ynys Môn yn cadarnhau’r angen am i holl geidwaid dofednod ac adar caeth eraill ymarfer y lefelau uchaf un o fioddiogelwch. Dyma pam y bu i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig ddatgan Parth Atal Ffliw Adar i Gymru gyfan ym mis Tachwedd.

“Mae’r Parth Atal, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill gadw eu hadar dan do neu gymryd camau priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt, yn parhau i fod ar waith, ac felly hefyd y gwaharddiad dros dro ar ddofednod yn dod at ei gilydd.

“Hyd yn oed pan fydd adar dan do, mae risg o hyd o haint sy’n tarddu o adar gwyllt, yn enwedig adar dŵr, yn mynd i mewn i siediau ac adeiladau’n anuniongyrchol. Mae’n rhaid wrth rwystr bioddiogelwch llym o amgylch dofednod dan do i atal yr haint rhag mynd i mewn drwy beiriannau, bwyd, dillad ac offer.

“Dylai ceidwaid adar barhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd a rhoi gwybod i’w milfeddyg am unrhyw amheuon.”

Rhaid i geidwaid dofednod sydd â mwy na 50 o adar fod ar y gofrestr dofednod ac mae’r rhai sydd â llai o nifer wedi’u cynghori i gofrestru eu hadar hefyd i alluogi rheoli clefydau.

Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu â nhw ar unwaith os bydd achosion o glefyd adar yn digwydd, fel eu bod yn gallu cymryd camau i ddiogelu eu haid cyn gynted â phosibl.

Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i roi gwybod am adar dŵr gwyllt (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu wylanod marw, neu bump neu fwy o adar gwyllt marw o rywogaethau eraill yn yr un lleoliad, drwy ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 335577.