Mae nifer y ceir newydd gafodd eu hadeiladu yn y DU y llynedd wedi gostwng o bron i draean i lai na miliwn, y nifer lleiaf ers 1984, yn ôl ffigurau newydd.

Mae hyn wedi arwain at golli miloedd o swyddi yn y diwydiant.

Roedd cynhyrchiant wedi gostwng 29.3% o’i gymharu a’r flwyddyn flaenorol, i 920,928 o geir, yn ôl Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduro (SMMT).

Dywedodd y Gymdeithas bod gostyngiad o 2.3% mewn cynhyrchiant ceir ym mis Rhagfyr yn benllanw ar “flwyddyn heriol dros ben” gyda gwneuthurwyr ceir wedi’u heffeithio gan effaith yr argyfwng coronafeirws yn ogystal â’r ansicrwydd am gytundeb Brexit drwy gydol 2020.

Yn ôl prif weithredwr SMMT, Mike Hawes, roedd nifer y diswyddiadau’r llynedd gan wneuthurwyr ceir a chwmnïau ceir yn y gadwyn gyflenwi tua 10,000.

Er gwaetha’r effaith ar fasnach yn sgil y pandemig, roedd mwy nag wyth o bob 10 o’r holl geir gafodd eu cynhyrchu yn y DU wedi cael eu hallforio dramor, gyda’r Undeb Ewropeaidd yn cymryd 53.5%.

Roedd allforion i’r Unol Daleithiau, Siapan ac Awstralia wedi gostwng tra bod allforion i Tsieina wedi cynyddu 2.3%.