Mae Horizon wedi tynnu ei gais cynllunio ar gyfer atomfa Wylfa Newydd yn ôl, gan olygu bod y prosiect wedi dod i ben yn swyddogol.
Mewn llythyr i’r Arolygiaeth Gynllunio – un o isadrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig – mae’r datblygwr yn lleisio’i siom.
Ac yn benodol mae’n tynnu sylw at y ffaith nad oes cwmni arall – hyd yma – wedi camu i’r adwy a chymryd lle Hitachi (rhiant gwmni Horizon) yn ddatblygwr ar y safle.
Mae’r llythyr yn nodi y bydd Horizon yn “dirwyn i ben fel endid datblygu gweithredol” erbyn diwedd mis Mawrth, ac y bydd Hitachi yn canolbwyntio ar safleoedd Hitachi Europe Limited (is-gwmni arall).
Mae’n gorffen trwy ddweud bod y safle yn Ynys Môn yn “addas iawn ar gyfer adeiladu cyfleusterau niwclear newydd”.
“Mae safle Wylfa Newydd … yn parhau i elwa o ddegawd o fuddsoddi a datblygu ac mae’n rhy bwysig i’r agenda Sero Net a dyfodol economaidd Ynys Môn i’r cynnydd hwn gael ei wastraffu,” meddai.
Cefndir
Roedd disgwyl y byddai’r atomfa £16bn arfaethedig yn creu cannoedd o swyddi ar yr Ynys, ond roedd yna wrthwynebiad cryf o’r dechrau un.
Ar ôl methu a dod i gytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rhoddwyd stop ‘dros dro’ ar waith y prosiect yn Ionawr 2019.
Wnaeth y cwmni Japaneaidd rhoi cyfle i Horizon ddod o hyd i gwmni newydd i gymryd yr awenau ar gyfer y safle ger Cemaes, ond mae’r llythyr yn dangos y daeth dim o hynny.
Ynni gwyrdd
Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Ynys Môn, yn ystyried y newyddion yn “ddiwedd y daith” i’r prosiect, ac yn fethiant ar ran Llywodraeth San Steffan.
Wrth edrych at y dyfodol dylai pobol yr ynys ganolbwyntio ar “gyfleoedd newydd”, meddai, ac mae wedi rhoi pwyslais ar botensial ynni gwyrdd.
“Yn y tymor byr, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar dyfu cyfleoedd cyflogaeth eraill – prosiectau newydd a rhai sydd eisoes ar y gweill,” meddai.
“Mae llawer o’r prosiectau hynny yn y sector ynni – oddi ar ein harfordir… ynni llanw, tonnau a gwynt, yn creu swyddi gwyrdd, a datblygu technolegau newydd y gallwn ni eu hallforio i’r byd, a denu buddsoddiad i borthladd Caergybi.”
“Mi all parc gwyddoniaeth M-Sparc, a’n Ysgol Gwyddorau Eigion, fod yn ganolfannau ar gyfer ymchwil a datblygu yn y meysydd hynny, ac i fentrau eraill yn y meysydd technoleg a digidol. Dwi’n edrych ymlaen at weld Plaid Cymru yn cael cyfle i sefydlu ein corff Ynni Cymru yma ar yr ynys.”
“Nid dyma yw’r diwedd”
Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi dweud ei bod yn teimlo siom am y cam, ond ei bod yn llwyr ymrwymedig i sicrhau y daw datblygwr newydd.
“Mae gan ein hynys uchelgais i gael atomfa ar y safle yma, ac nid dyma yw’r diwedd ar unrhyw gyfrif,” meddai. “Mae’r safle yn le safon uchel i osod yr ynni yma.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau’n llwyr ymrwymedig i ynni niwclear yn Wylfa Newydd, ac mae hynny’n wir amdana’ i hefyd.
“Fodd bynnag, y realiti oedd bod y gwaith methu parhau heb ddatblygwr … Ffeindio datblygwyr newydd gydag uchelgeisiau newydd i fuddsoddi yn y safle gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf – dyna yw fy swydd i yn awr.”