Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn yng Nghaerdydd ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i’w gorff yn ardal Penylan nos Iau (Ionawr 28).

Dydy’r dyn ddim wedi cael ei adnabod eto.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion, ac maen nhw am siarad ag unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn Heol Westville neu Ffordd Casnewydd ger Heol Albany rhwng 10.15yh nos Iau ac 1 o’r gloch fore Gwener (Ionawr 29).

“Byddwn yn annog unrhyw un â gwybodaeth i ddod aton ni,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Darren George.

“Dim ots pa mor ddibwys yw’r wybodaeth, byddai’n well o lawer gennym pe baech chi’n rhoi caniad i’n hystafell ymchwilio i siarad ag un o’n swyddogion.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.