Mae Dr Dai Lloyd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yng ngorllewin Abertawe, yn galw am ymchwiliad brys i amodau gwaith a rheoliadau’r coronafeirws ym mhencadlys y DVLA.

Mae undeb PCS wedi gwneud galwadau tebyg yn dilyn marwolaeth gweithiwr yno o ganlyniad i’r feirws.

Mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, yn gwadu bod gweithwyr wedi cael gorchymyn i ddiffodd yr ap Profi ac Olrhain ar eu ffonau symudol.

Yn ôl adroddiadau, mae staff yn ofni mynd i’r gwaith oherwydd y sefyllfa.

Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan, dywedodd Boris Johnson wrth aelodau seneddol fod 2,000 o brofion wedi’u cynnal dros y bythefnos ddiwethaf, ond fod yr holl ganlyniadau’n negyddol a bod y Llywodraeth yn gweithio’n “ddi-stop” i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Ond mae Jim McMahon, llefarydd trafnidiaeth Llafur, hefyd yn galw am ymchwiliad llawn i’r honiadau am y gorchymyn i staff ddiffodd yr ap ar eu ffonau symudol.

Galwad Dr Dai Lloyd

Daeth yr alwad am ymchwiliad brys gan Dr Dai Lloyd fel rhan o Gwestiwn Brys i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn y Senedd.

Mae’n dweud ei fod e wedi ysgrifennu at Gyngor Abertawe’n ddiweddar, y pedwerydd gwaith iddo godi mater diogelwch gweithwyr y DVLA ers y cyfnod clo cyntaf fis Mawrth.

Mae’r ffaith fod dros 500 o weithwyr yno wedi’u heintio â’r coronafeirws yn “sgandal”, yn ôl undeb PCS.

“Does dim esgus dros y sefyllfa yn y DVLA,” meddai Dr Dai Lloyd.

“Rwy’ wedi ysgrifennu i Gyngor Abertawe fel yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am sicrhau bod gweithleoedd yn glynu wrth y rheolau Covid-19.

“Ysgrifennais lawer gwaith yn uniongyrchol i’r DVLA yn ystod y misoedd diwethaf – am fod llawer o’r gweithwyr yno’n teimlo nad ydyn nhw’n ddiogel yn eu man gwaith.

“Er bod y DVLA yn adran o Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, maen nhw’n gweithredu yng Nghymru ac felly rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn cadw at reolau’n gwlad ni.”

 

Grant Shapps yn gwadu fod gweithwyr DVLA Abertawe wedi cael cyfarwyddyd i ddiffodd apiau Profi ac Olrhain

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth wedi mynnu ei fod yn cymryd yr achosion “o ddifrif”
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Undeb yn galw am ymchwiliad llawn wedi marwolaeth gweithiwr DVLA

Roedd yr aelod o staff wedi cael prawf positif am Covid-19, meddai undeb y PCS

Llywodraeth Prydain yn gweithio’n “ddi-stop” i fynd i’r afael ag achosion Covid-19 yn y DVLA, medd Boris Johnson

Cafodd mwy na 500 o achosion eu nodi ar y safle yn Abertawe rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Coronafeirws yn y DVLA: Mark Drakeford yn anfodlon ag ymateb gweinidogion San Steffan

Dywed undeb PCS ar ran staff y DVLA fod nifer o weithwyr yn ofni mynd i mewn i’r swyddfa
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Coronafeirws yn y DVLA: gweinidogion Llywodraeth Prydain dan y lach

Honiadau eu bod nhw wedi methu â diogelu gweithwyr rhag y feirws yn dilyn un o’r ymlediadau mwyaf