Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira mewn 15 o siroedd yng Nghymru heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 30).
Gallai hyd at chwe modfedd (15cm) gwympo ar diroedd uchel, ac fe allai achosi oedi i deithwyr ac anghyfleustra i bobol mewn ardaloedd gwledig ac i gyflenwadau trydan rhai cymunedau.
Dyma’r ail benwythnos yn olynol iddyn nhw gyhoeddi rhybudd o’r fath, ac mae rhagor o rybuddion yn eu lle rhwng dydd Llun (Chwefror 1) a dydd Mercher (Chwefror 3).
Mae’r rhybudd am heddiw mewn grym tan 6 o’r gloch heno, ac mae’n berthnasol i siroedd Blaenau Gwent, Caerfyrddin, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Mynwy, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.
Mae’r rhybudd am eira a rhew tan 9 o’r gloch nos Lun hefyd yn berthnasol i Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr ac Ynys Môn.