Mae dyn o Gaint wedi cael ei gyhuddo o ddanfon pecyn amheus at ganolfan frechu’r coronafeirws yn Wrecsam.
Aeth Anthony Collins, 53, gerbron ynadon Medway heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 30) ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa cyn mynd gerbron Llys y Goron Maidstone ar Chwefror 26.
Cafodd ei arestio dydd Iau (Ionawr 28) ar ôl i’r ganolfan dderbyn y pecyn fore Mercher (Ionawr 27).
Mae’r heddlu wedi bod yn cynnal ymchwiliad mewn sawl eiddo mewn perthynas â’r achos.
Cefndir
Bu’n rhaid i weithwyr ar safle Wockhardt yn Wrecsam adael eu gwaith wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.
Cafodd Anthony Collins ei gyhuddo o anfon parsel yn y post gyda’r bwriad o wneud i bobol gredu ei fod yn debygol o ffrwydro neu fynd ar dân.
Ond doedd y parsel ddim yn cynnwys ffrwydron, yn ôl yr heddlu.
Mae cwmni Wockhardt yn creu cynnyrch ar gyfer brechlynnau AstraZeneca Rhydychen – y cam olaf yn y broses o roi’r brechlynnau’n barod i’w dosbarthu.