Mae cyn-bennaeth Better Together, oedd wedi arwain ymgyrch ‘Na’ yn refferendwm annibyniaeth yr Alban, yn galw ar i Boris Johnson beidio ag ymyrryd yn y ddadl.
Wrth siarad â’r Daily Record, dywed Blair McDougall ei fod yn cytuno ag Ian Murray, yr aelod seneddol Llafur, sy’n dweud bod prif weinidog Prydain “yn fwy o fygythiad i’r Deyrnas Unedig nag unrhyw genedlaetholwr”.
Pleidleisiodd 55% o drigolion yr Alban yn erbyn annibyniaeth yn 2014 ac mae’r mater yn debygol o fod yn un o bynciau llosg etholiadau Holyrood fis Mai wrth i’r SNP geisio cryfhau eu grym.
Dywed y blaid y byddan nhw’n bwrw ati i gynnal refferendwm arall pe bai’r mwyafrif o aelodau seneddol sy’n cael eu hethol o blaid annibyniaeth, hyd yn oed pe bai San Steffan yn gwrthod rhoi caniatâd.
Fe allai hynny arwain at achos cyfreithiol.
Ymweliad
Aeth Boris Johnson i’r Alban ddydd Iau (Ionawr 28) i hybu’r Undeb wrth bwysleisio pwysigrwydd y cydweithio rhwng gwledydd Prydain wrth fynd i’r afael â’r coronafeirws.
Mae’n honni bod yr SNP yn ceisio manteisio ar annibyniaeth fel tacteg i dynnu sylw oddi ar broblemau’r wlad.
Yn dilyn ei ymweliad, mae Blair McDougall yn ei annog i beidio â phrocio’r sefyllfa ymhellach, gan ofni y bydd yn cael effaith i’r gwrthwyneb i’r hyn sydd wedi’i fwriadu.
“Byddwn i’n dweud wrtho am ‘beidio â bod y dihiryn mae’r SNP am i chi fod’,” meddai.
“Cymerwch gam i’r cefndir a brwydrwch yn glyfar.
“Dylech gydnabod fod hon yn frwydr a chaiff ei hennill neu ei cholli yn yr Alban.”
Cymharu Boris Johnson a David Cameron
Yn wahanol i Boris Johnson, dywed Blair McDougall fod David Cameron, prif weinidog Prydain adeg refferendwm 2014, wedi bod yn “glyfar wrth ryw gamu’n ôl”.
“Mae diffyg celfyddyd amlwg o du Boris Johnson lle mae pob ymyrraeth yn cael ei briffio fel bod yn ymyrraeth a fydd yn achub yr Undeb,” meddai.
“Os oedd David Cameron yn deall nad fe oedd y dyn oedd yn mynd i achub yr Undeb, ac y byddai am gael ei hachub yn yr Alban, dydy Boris Johnson yn sicr ddim [yn deall hynny].”