Mae ffermwyr yn India yn ymprydio heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 30) yn erbyn cyfreithiau ffermio dadleuol y prif weinidog Narendra Modi a’i lywodraeth, ac maen nhw’n bwriadu cynnal deufis o brotestiadau.
Daw’r ymprydio ar ddyddiad marwolaeth Mahatma Gandhi, a fu farw ar y diwrnod hwn yn 1948 ac mae’r ffermwyr yn dweud bod ymprydio’n tanlinellu natur heddychlon eu protest.
Serch hynny, roedd peth trais ddydd Mawrth (Ionawr 26, Diwrnod Gweriniaeth India) pan feddiannodd ffermwyr ar dractors adeilad hynafol yn Delhi.
Bu farw un person a chafodd bron i 400 o blismyn eu hanafu.
Mae’r heddlu wedi dwyn achos yn erbyn newyddiadurwyr, ymgyrchwyr a gwleidyddion yr wrthblaid am annog terfysg a thrais.
Y cyfreithiau
Mae undeb ar ran y ffermwyr wedi condemnio’r cyfreithiau, ac mae cannoedd o gynrychiolwyr yn arwain protestiadau ar ran yr undeb.
Mae’r ffermwyr am weld y cyfreithiau’n cael eu diddymu, gan ddweud y bydden nhw’n ffafrio corfforaethau mawr, yn torri incwm ffermwyr ac yn niweidio ffermwyr â darnau llai o dir.
Yn ôl llywodraeth Narendra Modi, mae’r cyfreithiau’n angenrheidiol er mwyn moderneiddio diwydiant amaeth y wlad ond mae ffermwyr yn dweud na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i’w protestiadau hyd nes bod y llywodraeth yn gwneud tro pedol.
Mae degau o filoedd o bobol wedi bod yn ymgynnull ers mis Tachwedd i ddangos eu anniddigrwydd, tra bod nifer o drafodaethau wedi bod yn aflwyddiannus.
Daeth 16 o bleidiau ynghyd ddoe (dydd Gwener, Ionawr 29) i foicotio anerchiad Narendra Modi gerbron y senedd.
Ar yr un diwrnod, daeth tua 200 o bobol leol ynghyd ar safle un brotest a thaflu cerrig at ffermwyr a difrodi pebyll, gan honni bod y ffermwyr wedi “amharchu” baner y wlad yn ystod eu protest ar Ddiwrnod Gweriniaeth India.
Mae’r ffermwyr yn honni mai Hindwiaid cenedlaetholgar oedd yn gyfrifol am y weithred, a’r rheiny’n gefnogwyr selog Narendra Modi a’i lywodraeth.