Mae Protocol Gogledd Iwerddon wedi cael ei alw’n “gocyn hitio” i’w ddefnyddio gan yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn Llywodraeth Prydain ar ôl Brexit.
Cafodd y protocol ei gyflwyno ar yr unfed awr ar ddeg fel ateb i ddiffyg cytundeb ynghylch ffiniau Iwerddon wrth i Lywodraeth Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe fu ffrae ynghylch yr unig ffin ar dir rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig, a’r ffin honno yn hollti Iwerddon.
Roed gwrthwynebiad chwyrn i ffin galed yn Iwerddon a chafwyd cytundeb y gallai Gogledd Iwerddon aros yn y farchnad sengl o ran nwyddau.
Mae’n golygu bod rheolau Ewropeaidd mewn grym ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Gogledd Iwerddon, er bod y wlad yn dal yn rhan o diriogaeth dollau’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl y protocol, gall yr Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig ddirwyn agweddau o’i gweithrediadau i ben os yw’r naill neu’r llall yn teimlo bod y cytundeb yn achosi “anawsterau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol”.
Dim ond yn wyneb problemau “difrifol” y dylid troi at y protocol, yn ôl y cytundeb, ac os yw’r naill ochr yn gweithredu, gall yr ochr arall ymateb.
Mae unoliaethwyr o’r farn fod y protocol yn gyfystyr â ffin yn y môr, ac mae aelodau seneddol y DUP yn galw am weithredu’r protocol mewn ymateb i oedi wrth gludo nwyddau o wledydd Prydain i Ogledd Iwerddon.
Mae rhai hefyd yn grac ynghylch honiadau y gallai rheolau Brexit effeithio ar symud cyfarpar milwrol o fewn y Deyrnas Unedig.
Ffrae yn cynyddu
Ond mae’r ffrae wedi cynyddu eto ers neithiwr (nos Wener, Ionawr 29), pan geisiodd yr Undeb Ewropeaidd fanteisio ar y protocol er mwyn atal brechlynnau coronafeirws rhag cael eu cludo’n ddiamod i Ogledd Iwerddon.
Roedd hyn, yn ôl rhai, yn ymgais gan yr Undeb Ewropeaidd i reoli allforion brechlynnau Covid-19 yn dilyn ffrae ynghylch cytundeb cyflenwi brechlynnau AstraZeneca Rhydychen.
Mae’r protocol yn cynnig modd i allforion osgoi’r rheoliadau a dod i wledydd Prydain heb eu gwirio, oherwydd nad oes cyfyngiadau ar fasnach o’r Undeb Ewropeaidd i Ogledd Iwerddon yn ôl y protocol.
‘Ffin feddyginiaethau’
Mae’r DUP wedi beirniadu’r Undeb Ewropeaidd.
“Mae’r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd am ddefnyddio Protocol Gogledd Iwerddon fel yr union offeryn i greu ffin feddyginiaethau ar ynys Iwerddon, creu ffin rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon ar gyfer yr union beth mae pobol yn chwilio amdanyn nhw ar hyn o bryd – y brechlyn coronafeirws – wedi fy ngadael i’n anghrediniol,” meddai Syr Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP yn San Steffan.
“Dw i’n falch eu bod nhw wedi ildio ond dw i’n ofni bod y genie allan o’r botel a’r genie hwnnw yw fod yr Undeb Ewropeaidd yn amlwg yn ystyried Protocol Gogledd Iwerddon yn gocyn hitio ar gyfer y Deyrnas Unedig.”
Dywed fod ei blaid wedi rhybuddio Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fod y protocol yn niweidio hygrededd y farchnad sengl yn y Deyrnas Unedig ac economi Gogledd Iwerddon.
Mae’n galw ar y sawl oedd wedi awdurdodi’r penderfyniad i “ystyried eu swydd”.