Mae Grant Shapps wedi gwadu honiadau bod staff yn swyddfeydd DVLA yn Abertawe wedi cael cyfarwyddyd i ddiffodd eu apiau Profi ac Olrhain am y coronafeirws wrth i achosion daro’r safle.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth wrth ASau ei fod yn cymryd yr achosion o coronafeirws yn Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Llywodraeth y DU “o ddifrif”, ond bod “dim cais” i weithwyr ddiffodd eu apiau olrhain wedi’i wneud.
Daw hyn wrth i weinidogion gael eu hannog i ymyrryd ar ôl i 500 o achosion yn y swyddfeydd Cymreig adael staff yn ofni mynd i’r gwaith.
Wrth godi’r mater yn ystod cwestiynau’r adran drafnidiaeth ddydd Iau, dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth yr wrthblaid, Jim McMahon, y dylid “ymchwilio’n llawn” i honiadau bod staff DVLA wedi cael cyfarwyddyd i ddiffodd eu apiau profi olrhain.
Galw am eglurhad
Dywedodd Jim McMahon wrth Dŷ’r Cyffredin: “Fel y gwyddom i gyd mae [dros] 500 o achosion o Covid wedi’u cofnodi yn swyddfeydd y DVLA yn Abertawe.
“Cafwyd honiadau hefyd bod gweithwyr wedi cael eu cyfarwyddyd i ddiffodd eu apiau profi ac olrhain a chael rhybuddion am gymryd amser i ffwrdd yn sâl – ac wrth gwrs mae’n rhaid ymchwilio’r rhain yn llawn.
“Mae’r dystiolaeth a gynigiwyd gan brif weithredwr y DVLA i’r Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth wedi troi argyfwng yn brawf gwleidyddol erbyn hyn.
“A all yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth egluro pam ei fod wedi anwybyddu rhybuddion am hyn a pham ei fod yn caniatáu i un o swyddfeydd y Llywodraeth ddod yn super spreader Covid-19?
“Nid oes unrhyw ymdrech i ddiffodd Profi ac Olrhain”
Atebodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth: “O ran DVLA, wrth gwrs rwy’n pryderu am y straeon a welsom yn y papurau newydd y penwythnos hwn.
“Rwyf wedi ymchwilio’n llawn.
“Gallaf ddweud wrtho mai dim ond traean o’r staff sy’n gweithio yn DVLA ar hyn o bryd – ac efallai y bydd yn gofyn pam bod unrhyw staff yn gweithio yno o gwbl – yr ateb syml yw bod yna bapur a chyflwyniadau nad ydynt yn gallu cael eu gwneud ar-lein, hebddynt, ni fyddai gweithwyr allweddol ac eraill yn cael eu trwyddedau.
“Mae yna gronfeydd data na ellir cysylltu â nhw o gartref am resymau preifatrwydd sy’n ei gwneud yn ofynnol i rai pobol fynd i’r swyddfeydd.
“Ond mae nifer o gamau pwysig iawn wedi’u cymryd gan gynnwys gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a sefydlu swyddfa newydd i weithio ynddynt hefyd.
“A gallaf ddweud wrth (Mr McMahon) nad oes unrhyw ymdrech i ddiffodd Profi ac Olrhain, gan DVLA na chan yr Adran Drafnidiaeth.”