Mae’r chwilio am dri physgotwr sydd ar goll oddi ar arfordir y Gogledd wedi dod i ben hyd nes y ceir gwybodaeth bellach.
Dechreuodd Gwylwyr y Glannau ar y gwaith oddi ar yr arfordir ger Conwy ychydig ar ôl 10am ddydd Iau pan fethodd y cwch pysgota, gyda thri dyn arno, ddychwelyd.
Roedd y gwaith chwilio’n cynnwys timau o Fangor, Llandudno, y Fflint a’r Rhyl, badau achub yr RNLI o’r Rhyl, Hoylake a Llandudno, hofrennydd gwylwyr y glannau o Gaernarfon, ac awyrennau Gwylwyr y Glannau, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru.
Gofynnwyd hefyd i gychod yn yr ardal gyfagos gadw golwg am y llong goll.
Ddydd Gwener dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau fod y chwilio wedi dod i ben hyd nes y ceir rhagor o wybodaeth.
Dywedodd Rob Priestley, rheolwr dyletswydd Gwylwyr y Glannau: “Rydym wedi gwneud chwiliadau hynod o drylwyr mewn ardaloedd eang oddi ar arfordir gogledd Cymru i ddod o hyd i’r llong hon, gan ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael, ond, yn anffodus, ni chanfuwyd dim hyd yn hyn.
“Mae ein meddyliau gyda’r teulu a ffrindiau, a’r gymuned ehangach, ar yr adeg anodd hon.
“Hoffem ddiolch i’r holl dimau a chriw sydd wedi bod yn ymwneud â’r ymdrech chwilio fawr hon ers dydd Iau, yn ogystal â’r llongau hynny yn yr ardal a’r gymuned leol sydd wedi helpu i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl i gynorthwyo’r ymdrechion chwilio.”