Mae cyn-chwaraewr rygbi wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio pensiynwr.
Cafwyd Tom Carney, 29, o ardal Treforys, yn euog gan reithgor o guro David Phillips, 76, i farwolaeth yn ei gartref yng Nghimla yng Nghastell-nedd fis Chwefror 2019.
Yn ôl Heddlu De Cymru roedd Tom Carney yn adnabod David Phillips ac wedi ymweld â’i gartref fel gwestai’r diwrnod hwnnw.
Daeth y ddau i adnabod ei gilydd mewn cyfarfod Alcoholics Anonymous lleol ac aeth Tom Carney draw i gartref David Phillips ar Chwefror 14, 2019, i wneud ffafrau rhywiol am botel o fodca.
Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC wrth Carney ei fod wedi bod yn “puteinio ei hun i bob pwrpas” am alcohol.
Ond ar ôl gadael y tŷ dychwelodd i gartref David Phillips ac ymosod arno.
Dywedodd y barnwr bod David Phillips wedi “ecsploetio” ar angen Carney am alcohol at ei ddiben rhywiol ei hun – ond nad oedd hynny “mewn unrhyw ffordd” yn cyfiawnhau’r hyn ddigwyddodd iddo.
Cafodd Tom Carney, a oedd yn arfer chware i dîm ieuenctid y Gweilch, ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe gydag isafswm o 15 mlynedd a 10 diwrnod.
‘Ymosod yn filain ac yn barhaus’
“Ar ôl gadael y cyfeiriad, dychwelodd Carney a gorfodi mynediad drwy gicio a dinistrio drws ffrynt yr eiddo, yna aeth ati i ymosod yn filain ac yn barhaus ar Mr Phillips,” meddai Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville, o’r Tîm Ymchwilio Troseddau Mawr.
Yn ystod yr achos llys, daeth i’r amlwg bod gan David Phillips hanes o droseddu rhywiol yn erbyn bechgyn a dynion ifanc.
Pan gafodd ei ladd roedd yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol ar ôl ymosod yn rhywiol ar fachgen 16 oed yng Nghastell-nedd.
“Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hanes blaenorol y dioddefwr achosi rhai teimladau cryf ond mae’r ddedfryd a osodwyd heddiw yn adlewyrchu … difrifoldeb yr ymosodiad arno,” ychwanegodd y Ditectif Arolygydd.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r tystion yn yr achos hwn, rhai ohonynt a welodd y trais mwyaf erchyll y gellir ei ddychmygu, hoffwn ddiolch hefyd i’r gymuned leol yng Nghimla am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad hwn.”