Mae athrawes o Gymru’n cael ei brolio am sbarduno twf enfawr ym moblogrwydd rygbi yn Rwanda – sydd wedi arwain y wlad i’w gêm gymhwyso Cwpan y Byd gyntaf erioed.

Dechreuodd Mary Watkins, 55, yr elusen Cyfeillion Rygbi Rwanda gyda’i gŵr, Glyn Watkins, nôl yn 2014 ar ôl i’r athrawon hyfforddedig wirfoddoli mewn ysgol yng ngorllewin Rwanda, a hyfforddi 200 o ddisgyblion sut i chwarae rygbi.

Mae’r elusen yn cynnig hyfforddiant i blant ac oedolion ifanc mewn 100 o ysgolion a chymunedau ar draws y genedl Affricanaidd – gyda sawl chwaraewr wedi mynd ymlaen i gynrychioli’r wlad ar lefel ryngwladol.

Dechrau gyrfa ryngwladol, tybed?

Dywedodd fod cariad newydd Rwanda at rygbi bellach yn “helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd” mewn gwlad lle cafodd 800,000 o bobol ei lladd mewn 10 diwrnod gan hil-laddiad ym 1994 yn ystod rhyfel cartref.

“Bod yn Gymry oedd yr unig fathodyn cymhwyster hyfforddi”

Dywedodd Mary Watkins: “Roeddem wedi cael gwahoddiad i swper gyda phennaeth [ysgol] a phan ddaeth y sgwrs ymlaen i chwaraeon, penderfynodd nad oedd Cymru’n dda iawn mewn pêl-droed, ond a allem helpu i hyfforddi rygbi i blant.

“Bod yn Gymry oedd yr unig fathodyn cymhwyster hyfforddi oedd angen i Glyn gael y swydd. Dw i’n cofio pa mor ddryslyd yr edrychodd pan ddaeth 200 o ddisgyblion i fyny a dim ond un bêl oedd ganddo.

“Lledaenodd rygbi’n gyflym a chyn i ni wybod, roedd pobl yn croesi’r ffin gyfagos o’r Congo i chwarae.

“Rwy’n credu mai ni oedd yn gyfrifol am y gêm ryngwladol gyntaf erioed rhwng Rwanda a’r Congo, er bod yn rhaid i chwaraewyr Congo ddiflannu am 5.30yh a rhedeg am 20 munud cyn i’r ffin gau am chwech o’r gloch.”

Mynd o nerth i nerth

Ers hynny, mae rygbi wedi mynd o nerth i nerth yno, gyda thîm cenedlaethol y dynion – sydd a’r llysenw ‘Silverbacks’ ar ôl gorilas enwog y wlad – yn gwneud hanes drwy chwarae eu gêm gymhwyso Cwpan y Byd gyntaf yn 2019.

Mae gêm yn erbyn yr Ivory Coast hyd yn oed yn fwy arbennig i Mary Watkins a’i gŵr gan fod tîm Rwanda yn cynnwys dau o’u swyddogion datblygu rygbi tra bod y rhan fwyaf o’r chwaraewyr wedi derbyn hyfforddiant gan yr elusen.

“Colli o 60-3 oedd hanes y Silverbacks, ond sbardunodd y gêm gymaint o ddiddordeb,” meddai.

“Byddem wrth ein bodd yn dod o hyd i chwaraewr Cymreig proffil uchel i fynd allan i Rwanda fel llysgennad i’n helusen adeiladu ar hyn.”

Mary Watkins gydar cit o Gymru

Ychwanegodd fod cariad at rygbi wedi troi’n gariad at Gymru, gyda thua 50 o dimau yn Rwanda bellach yn chwarae mewn cit sydd wedi’i roi fel rhodd gan dimau yng Nghymru, a dywedodd mai ei “breuddwyd” fyddai gweld Cymru’n chwarae yn erbyn Rwanda yng Nghwpan y Byd.

“Mae’n dod â phobl at ei gilydd”

Ffurfiodd asgellwr rhyngwladol Rwanda, Donatien Ufitimfura, ei dîm ei hun, Rusizi Resilience RFC, ar ôl cael ei gyflwyno i’r gêm gan Mary a Glyn Watkins yn 2014.

Mary Watkins gyda Donatien Ufitimfura

Ei dîm ef oedd yr wythfed i ymuno â’r gynghrair genedlaethol ac arweiniodd at gydnabyddiaeth swyddogol gan Rygbi’r Byd.

Dywedodd: “Roeddwn bob amser yn ddig iawn cyn i mi ddechrau chwarae rygbi, ond nawr dw i wastad yn hapus.

“Rwyf wedi tyfu i fyny yn amddifad mewn amodau gwael. Ni welais fy nhad erioed.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd rygbi, ond rwy’n credu mai dyna oeddwn i i fod i’w chwarae. Mae’n dod â phobl at ei gilydd.”